Ni fydd gwisgo mygydau’n ofynnol mewn siopau nac ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddydd Llun (Mawrth 28) ymlaen.

Bydd Mark Drakeford yn cyhoeddi fory (Mawrth 25) bod Cymru am barhau i lacio’r mesurau Covid-19 sydd dal mewn grym yn raddol.

Bydd y gofyniad i hunanynysu yn symud i fod yn ganllaw hefyd, er y bydd y taliad hunanynysu o £500 yn parhau i fod ar gael nes mis Mehefin.

Er y bydd gwisgo mygydau dal yn cael ei argymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus, ni fydd yn ofyniad cyfreithiol mewn siopau nac ar drafnidiaeth gyhoeddus mwyach.

Ond, bydd gwisgo mygydau yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd rhaid i fusnesau barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws hefyd, gan roi mesurau rhesymol ar waith yn unol â’r asesiadau hynny.

Roedd amheuaeth yr wythnos hon a fyddai hi’n bosib llacio’r rheolau gan fod achosion Covid-19 wedi codi’n sydyn yn ddiweddar yn sgil amrywiaeth Omicron BA.2, ac mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw’r ddau amddiffyniad hynny oherwydd y cynnydd.

‘Graddol a gofalus’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ein bod ni’n gweld “cynnydd annymunol mewn achosion o’r coronafeirws ledled Cymru, sy’n adlewyrchu’r sefyllfa yn y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig”.

“Rydym wedi ystyried y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf yn ofalus ac mae angen inni gadw rhai mesurau diogelu cyfreithiol ar waith ychydig yn hirach, er mwyn helpu i ddiogelu Cymru,” meddai Mark Drakeford.

“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi mabwysiadu dull graddol a gofalus wrth inni lacio mesurau diogelu.

“Rydym ar y trywydd iawn i adael ymateb i argyfwng y pandemig y tu ôl inni a dysgu byw gyda’r coronafeirws yn ddiogel.”

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn cael ei gynnal erbyn Ebrill 14, pan fydd y mesurau cyfreithiol sydd ar ôl yn cael eu hadolygu.

‘Gwrth-fusnesau’

Wrth ymateb i’r llacio, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, eu bod nhw’n croesawu’r newidiadau i hunanynysu a gwisgo mygydau.

Er hynny, dywedodd ei bod hi’n siomedig bod Llywodraeth Cymru yn “parhau i fod yn wrth-fusnesau”.

“Ar adeg pan ddylai’r Llywodraeth fod yn gwneud popeth y gallan nhw i hybu swyddi a chynhyrchiant, ydy hi’n iawn fod busnesau’n gorfod parhau i lenwi gwaith papur sydd o ychydig werth?” gofynnodd Russell George.

“Rydyn ni angen ymddiried mewn busnesau i wneud yr hyn sy’n iawn i gadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel.

“Ar ôl dwy flynedd, mae pobol Cymru’n gwybod beth i wneud i gadw’u hunan yn ddiogel, a dylid ymddiried ynddyn nhw i wneud yr hyn maen nhw’n credu sy’n iawn tra bod Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar adfer yr economi, mynd i’r afael â chostau byw, a chau’r bwlch cyflog Cymreig.”