Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cadw’r cyfyngiadau Covid sydd dal mewn grym yn hirach na’r disgwyl.

Roedd disgwyl i’r cyfyngiadau ddod i ben yr wythnos nesaf, ond dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru heddiw (Mawrth 22) ei bod hi’n bosib y byddan nhw’n cadw rhai mesurau.

Fodd bynnag, mae’r cyfraddau Covid wedi bod yn cynyddu yng Nghymru dros yr ychydig wythnosau diwethaf, a dydy Llywodraeth Cymru heb ddod i’r un penderfyniad ynghylch y cyfyngiadau eto, meddai Eluned Morgan.

Ar hyn o bryd, mae hi’n orfodol i bobol wisgo mygydau mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mewn ysbytai.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai’r holl fesurau cyfreithiol hynny, a’r gyfraith ar hunanynysu, ddod i ben ddydd Llun, Mawrth 28, pe bai sefyllfa iechyd y cyhoedd yn aros yn sefydlog.

‘Persbectif’

Yn ôl Eluned Morgan, mae Covid-19 yn lledaenu’n gyflym “ymhob rhan o Gymru ac ymysg pob grŵp oedran”.

Wrth ystyried cael gwared ar y cyfyngiadau sydd dal mewn grym ai peidio, dywedodd Eluned Morgan mai’r prif bryder yw’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Rhybuddiodd bod ysbytai’n llawn yn barod, ac y byddai cynnydd mewn achosion yn creu problemau eraill i wasanaethau fel unedau gofal brys.

“Efallai y byddan ni’n edrych ar gadw rhai cyfyngiadau a pharhau gyda’r rhai oedden ni wedi cynllunio [cael gwared arnyn nhw] yn barod, ond does yna ddim penderfyniadau wedi’u gwneud hyd yn hyn,” meddai.

Fe wnaeth Eluned Morgan gydnabod bod pobol yng Nghymru wedi blino â’r pandemig, yn ogystal â bod yn bryderus am gostau byw cynyddol a’r rhyfel yn Wcráin.

Ond dywedodd bod rhaid i bobol gael persbectif ar yr hyn y mae gofyn iddyn nhw ei wneud a pham ei bod hi’n bosib y bydd rhaid cadw rhai mesurau Covid.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn beth mawr gofyn i bobol wisgo mygydau mewn sefyllfaoedd penodol,” meddai Eluned Morgan.

“Dw i’n meddwl bod rhaid i ni gael persbectif ar hyn o ran lle rydyn ni wedi bod yn y gorffennol, pan nad oedden ni ddim hyd yn oed yn cael gadael ein cartrefi.”

‘Rhyddhau rhag cyfreithiau Covid’

Wrth ymateb i’r oedi posib mewn codi cyfyngiadau, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: “Rydyn ni wedi bod yn glir iawn wrth ddweud mai cyfrifoldeb personol a chanllawiau gan y llywodraeth yw’r trywydd gorau i Gymru ei ddilyn.

“Dydy Omicron ddim yn tueddu i achosi llawer o symptomau, mae cyfran uchel o’r boblogaeth wedi cael tri brechlyn, dyw Covid ddim yn rhoi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dan bwysau, ac mae’r gaeaf yn dod i ben.

“Mae brechlynnau wedi profi i fod yn ffordd allan o’r pandemig, a byddan nhw’n parhau i wneud hynny. Beth mwy mae gweinidogion eisiau gennym ni?

“Mae hi’n amser i’r Llywodraeth Lafur ein rhyddhau ni rhag cyfyngiadau Covid, gadael i ni gael cyfrifoldeb, a chanolbwyntio ar adfer.”

Achosion a marwolaethau Covid

Yn ôl arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos ddiwethaf roedd gan 125,400 o bobol yng Nghymru Covid yn yr wythnos yn gorffen Mawrth 12 – cynnydd o’r amcangyfrif o 97,900 yn ystod yr wythnos flaenorol.

Mae ystadegau profion PCR yn dangos cynnydd hefyd, gyda chyfradd o 334.5 achos i bob 100,000 person yng Nghymru ddoe (Mawrth 21), o gymharu â 156 i bob 100,000 ddiwedd mis Chwefror.

Er hynny, mae niferoedd marwolaethau Covid-19 Cymru yn parhau i fod yn weddol gyson ers ychydig wythnosau.

Yn ystod yr wythnos hyd at Mawrth 11, cafodd Covid-19 ei grybwyll ar 40 o dystysgrifau marwolaeth, gostyngiad o’r 48 yn yr wythnos flaenorol.

Ers pum wythnos, mae’r marwolaethau wedi bod yn weddol gyson, rhwng 40 a 48 yr wythnos.

Ar hyn o bryd, mae yna tua 1,400 o bobol yn ysbytai Cymru gyda Covid-19, er mai dim ond 19% gafodd eu derbyn yn sgil y feirws, ac mae’r niferoedd sy’n derbyn gofal dwys yn isel.

Ers dechrau mis Mawrth, mae achosion Covid-19 wedi bod yn cynyddu dros y Deyrnas Unedig yn sgil amrywiolyn Omicron BA.2, ond ni fydd hi’n bosib gweld ei effaith ar farwolaethau am ychydig wythnosau.

Dros y gwanwyn bydd pawb dros 75 oed, preswylwyr cartrefi gofal i bobol hŷn, ac unrhyw un dros 12 oed sy’n imiwnoataliedig yng Nghymru yn derbyn dos arall o’r brechlyn.

Mae plant rhwng pump ac 11 oed yn cael cynnig y brechlyn ar hyn o bryd hefyd.