Mae rheini merch anabl wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi ei marwolaeth drwy ganiatáu iddi fod yn ordew.

Cafwyd hyd i Kaylea Titford, 16 yn farw yn ei chartref yn y Drewnewydd ym Mhowys ym mis Hydref 2020.

Mae ei thad Alun Titford, 44, a’i mam Sarah Lloyd-Jones, 39, o Golwyn, Y Drewnewydd, wedi’u cyhuddo o  ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol ac achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn neu berson agored i niwed.

Honnir eu bod nhw wedi methu sicrhau anghenion dietegol Kaylea Titford rhwng 24 Mawrth a 11 Hydref 2020 gan arwain at ordewdra.

Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o beidio sicrhau ei bod yn cael digon o ymarfer corff, ei bod mewn cyflwr glân, mewn amgylchedd diogel a glân, bod ei hiechyd corfforol yn cael ei gynnal a’u bod wedi gofyn am gymorth meddygol derbyniol.

Fe ymddangosodd y cwpl gerbron Llys Ynadon Y Trallwng heddiw (dydd Mawrth, 22 Mawrth) ond nid oedden nhw wedi cyflwyno ple.

Fe fyddan nhw’n parhau ar fechnïaeth amodol ac yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar 14 Ebrill.