Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio bod Vladimir Putin ‘mewn sefyllfa anodd heb lawer o opsiynau’ ac y gallai fod yn ystyried defnyddio arfau cemegol neu fiolegol yn Wcráin.

Wrth siarad ag arweinwyr busnes yn Washington DC, dywedodd Joe Biden nad oedd Putin yn disgwyl ‘graddfa na chryfder’ lluoedd Wcrain i’w wrthsefyll.

Ychwanegodd mai’r anoddaf mae’r sefyllfa’n mynd i Putin, ‘y mwyaf difrifol fydd y tactegau y maen barod i’w defnyddio’.

Mae Putin wedi gwneud hyn o’r blaen, meddai Joe Biden.

“Pryd bynnag mae e’n dechrau siarad am bethau y mae’n credu y mae Nato, Wcráin, yr Unol Daleithiau ar fin eu gwneud, mae’n golygu ei fod e’n barod i wneud hynny.”

Arfau biolegol a chemegol

Cyfeiriodd Joe Biden at ei dacteg o roi’r bai ar eraill er mwyn celu ei fwriadau ei hun.

“Nawr mae’n honni bod gennym ni, yn America, arfau biolegol a chemegol yn Ewrop – dyw hyn, yn syml, ddim yn wir.

“Maen nhw hefyd yn awgrymu bod gan Wcráin arfau biolegol a chemegol. Mae hyn yn arwydd amlwg ei fod yn ystyried defnyddio’r ddau.

“Mae e wedi defnyddio arfau cemegol yn barod yn y gorffennol, a dylem ni fod yn ofalus rhag yr hyn sydd i ddod. Mae e’n gwybod y bydd goblygiadau difrifol oherwydd ffrynt unedig Nato.”

Rhybuddiodd Joe Biden y gallai gweinyddiaeth Rwsia fod yn paratoi i lansio ymosodiadau seibr yn erbyn seilweithiau hollbwysig.

Bydd Joe Biden yn hedfan i Warsaw yng Ngwlad Pwyl er mwyn cyfarfod â’r Arlywydd Andrzej Duda ddydd Sadwrn (Mawrth 26) er mwyn trafod sut mae’r Unol Daleithiau a’u cynghreiriaid yn ymateb i’r argyfwng.

Mae Joe Biden a Nato wedi dweud dro ar ôl y tro y byddan nhw’n darparu arfau a chymorth amddiffynnol i Wcráin, sydd ddim yn aelodau o Nato, ond eu bod nhw’n benderfynol o osgoi unrhyw weithred ar ran y brifddinas Kyiv fyddai’n ehangu’r rhyfel â Rwsia.

Er bod Arlywydd Wcrain, Volodymyr Zelensky, wedi galw am ‘barth di-awyrennau’ dros Wcráin droeon, mae Nato a’r Unol Daleithiau wedi gwrthod hynny gan ddweud y byddai’n golygu bod lluoedd y Gorllewin mewn rhyfel uniongyrchol â Rwsia.