Bydd prosiect llanw arwyddocaol oddi ar Ynys Môn yn elwa ar £31m.
Hwn, fwy na thebyg, fydd y grant mawr olaf gan raglen ariannu ranbarthol yr Undeb Ewropeaidd.
Daw’r arian o’r Gronfa Strwythurol ar gyfer 2014-2020, sy’n rhan o fuddsoddiad sylweddol o £105m o arian Ewropeaidd i gefnogi ymchwil a datblygiadau ym maes ynni’r môr yng Nghymru.
Ond o ganlyniad i’r hyn mae Llywodraeth Cymru’n ei alw’n ddiffyg ymrwymiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’r addewid i ddisodli arian Ewropeaidd sydd wedi’i golli yn sgil Brexit, mae disgwyl i gyllideb Cymru fod ar ei cholled o £1bn.
Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cadarnhau y bydd arian yn cael ei roi i brosiect seilwaith Morlais Menter Môn, sy’n anelu i ddatblygu technoleg cynhyrchu ynni’r llanw ymhellach drwy gysylltiad â’r grid.
Mae’n ymestyn dros 35km sgwâr o’r môr, ac mae Menter Môn yn gyfrifol am reoli’r safle a gafodd ganiatâd datblygu gan Lywodraeth Cymru fis Rhagfyr y llynedd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi rhoi trwydded morol a fydd yn galluogi tyrbinau llanw i gael eu gosod fesul dipyn, fel bod modd monitro bywyd gwyllt a chynefinoedd.
‘Sefydlu Cymru fel lleoliad o ddewis’
“Rydyn ni am sefydlu Cymru fel lleoliad o ddewis ar gyfer datblygwyr ffrwd llanw a’r gadwyn gyflenwi,” meddai Julie James.
“Hoeliodd archwiliad manwl diweddar gan Lywodraeth Cymru sylw ar yr angen i ystyried ein hanghenion ynni ac anghenion ein hecosystemau, yr amgylchedd ac anghenion defnyddwyr eraill y môr.
“Rydyn ni’n ceisio dod o hyd i lwybr ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy morol, gan sicrhau canlyniadau y gall pawb elwa arnynt a chefnogi prosiectau i gyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth forol.
“Rydyn ni’n disgwyl i’r diwydiant achub ar y cyfle hwn a gweithio gyda’n gilydd i ddangos y gostyngiadau mewn costau a buddsoddiad preifat a fydd yn helpu i sefydlu’r pŵer glân, cadarn a moesegol hwn fel rhan sylweddol o’r system ynni fyd-eang.”
‘Newyddion gwych’
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog gogledd Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad fel “newyddion gwych”.
“Ymwelais ag Ynys Môn y llynedd i glywed mwy am y cynlluniau cyffrous ar gyfer Morlais,” meddai.
“Mae Ynys Môn a gogledd Cymru yn gyffredinol mewn sefyllfa dda iawn i chwarae rhan allweddol mewn cynhyrchu ynni carbon isel arloesol sydd o fudd i gymunedau lleol.
“Mae’r newyddion heddiw yn dystiolaeth bellach o hynny. Bydd y prosiect nid yn unig yn hwb i gynhyrchu ynni carbon isel yn y dyfodol ond bydd hefyd yn creu swyddi a sgiliau yn yr ardal.”
Yn ôl Vaughan Gething, roedd “cryn dipyn o gyfleoedd i’r sector ynni morol drwy raglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd”.
“Nid oes amheuaeth nad yw cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol i gefnogi busnesau i fanteisio i’r eithaf ar botensial adnoddau tonnau a llanw Cymru, gyda buddsoddiad sylweddol o £105m mewn prosiectau Ynni Morol yng Nghymru,” meddai.
“Mae prosiect Seilwaith Morlais yn allweddol i ddatgloi datblygiad sector y ffrwd lanw yn y gogledd, gan ddod â nifer o fanteision economaidd i’r rhanbarth. Wrth adeiladu a phrofi dyfeisiau a pharatoi seilwaith, bydd y prosiect yn denu buddsoddiad pellach gan y sector gan alluogi’r gadwyn gyflenwi i dyfu a chreu swyddi sgiliau uwch.”
£1.2m arall gan Ystâd y Goron
Bydd Ystâd y Goron yn buddsoddi £1.2m arall ym mhrosiect Morlais, i gefnogi’r gwaith o gyflawni ei phecyn monitro a lliniaru amgylcheddol – cam hanfodol i ddiogelu’r amgylchedd morol a galluogi’r prosiect i symud yn ei flaen.
Bydd y gwaith yn monitro am ryngweithio â rhywogaethau sensitif, yn ogystal â phrofi technolegau monitro parhaus.
Bydd yn berthnasol i unrhyw ddyfais y ffrwd lanw a ddefnyddir ar y safle ac mae’n gam pwysig tuag at fynd i’r afael â bylchau mawr mewn tystiolaeth a heriau cydsynio a wynebir gan y sector llanw sy’n brin o ddata ar hyn o bryd.
Mae Grŵp Cynghori yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r gwaith, gydag aelodau sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, JNCC, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, Cyngor Sir Ynys Môn, a datblygwyr y ffrwd lanw.
Mae’r partneriaid cyflawni tebygol yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a SMRU Consulting, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng y sectorau ymchwil, ynni ac arloesi.
“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad diweddaraf hwn yn y prosiect pwysig hwn, sydd â photensial enfawr i helpu i ddatgloi mathau newydd o bŵer glân i Gymru, gan baratoi’r ffordd ar gyfer technolegau ynni arloesol, mwy o gadernid o ran cyflenwad, a swyddi, sgiliau a mewnfuddsoddiad newydd,” meddai Nicola Clay, Pennaeth Mentrau Newydd yn nhîm Morol Ystâd y Goron.
“Mae ein hymrwymiad ariannu ein hunain ym Morlais yn un enghraifft o sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraethau’r DU a Chymru i gefnogi eu hymrwymiad i dwf ynni adnewyddadwy a’r newid i sero net.
“Drwy’r buddsoddiad diweddaraf hwn, byddwn yn helpu i ddarparu pecyn cynhwysfawr o ddata hanfodol i gefnogi datblygiad y prosiect pwysig hwn, diogelu bioamrywiaeth forol a sicrhau bod mewnwelediadau gwerthfawr ar gael er budd llawer o ddiwydiannau morol eraill.”