Dylid datganoli’r cronfeydd ‘codi’r gwastad’ i Gymru a chanolbwyntio ar yr argyfwng costau byw, meddai Plaid Cymru.

Gobaith cynllun ‘codi’r gwastad’ Llywodraeth San Steffan yw dyrchafu pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn economaidd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond heddiw (Mawrth 22), mae Ben Lake, llefarydd y trysorlys dros Blaid Cymru, wedi cyflwyno Bil yn Nhŷ’r Cyffredin yn galw am ddatganoli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, y gronfa a gafodd ei sefydlu i ddisodli arian yr Undeb Ewropeaidd.

Yn 2019, fe wnaeth y Ceidwadwyr addo y byddai cronfeydd fyddai’n disodli rhai’r Undeb Ewropeaidd yn “decach ac wedi’u haddasu’n well ar gyfer ein heconomi”.

Fodd bynnag, mae Ben Lake wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “ddiffyg ffocws strategol clir” a “phrosiectau di-drefn sy’n arbrofi wrth drio gwella pethau”.

‘Peri pryder’

Ddiwrnod cyn i’r Canghellor Rishi Sunak wneud Datganiad y Gwanwyn fory (Mawrth 23), dywedodd Ben Lake y dylai’r cronfeydd ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a “darparu rhaglenni gwirioneddol drawsffurfiol”, gan ddechrau gyda chynllun i ôl-osod inswleiddiwr mewn tai.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi dweud y gallai rhaglen effeithlonrwydd ynni wedi’i hariannu gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig arbed hyd at £613 y flwyddyn i aelwydydd ar eu biliau ynni.

Yn ôl Ben Lake, dylai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gael ei defnyddio i ddarparu rhaglen o’r fath.

Roedd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn cael eu gweinyddu a’u rheoli gan y llywodraethau datganoledig, ac mae Plaid Cymru’n dadlau y dylai’r cronfeydd newydd gael eu datganoli i Gymru gan fod datblygiad economaidd wedi’i ddatganoli.

‘Diffyg ffocws strategol clir’

Cyn cyflwyno’r Bil, dywedodd Ben Lake: “Yn 2019, fe wnaeth y Blaid Geidwadol addo disodli arian rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd gyda rhaglen sy’n ‘decach ac wedi’i haddasu’n well i’n heconomi’.

“Hyd yn hyn, fodd bynnag, dyw faint o arian sydd wedi cael ei ddyrannu ddim yn cyd-fynd â’r addewid yn rhethreg ‘codi’r gwastad’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae’r diffyg ffocws strategol clir yn peri’r un faint o bryder, yn ogystal â’r diffyg ymdrech i ddod â chymunedau, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru ynghyd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru.

“Drwy fy Mil Rheol Deg-Munud, mae Plaid Cymru yn galw am ddatganoli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Lywodraeth Cymru, llywodraeth sydd mewn gwell lle i gyflwyno gwelliannau gwirioneddol i fywydau pobol yn sgil y patrwm presennol o gydweithio ag awdurdodau lleol.”

Ychwanegodd bod Plaid Cymru’n galw am ddefnyddio’r cronfeydd ‘codi’r gwastad’ i ddarparu rhaglenni i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd.

“O ystyried y brys wrth i filoedd o aelwydydd wynebu argyfwng, dw i’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried fy Mil o ddifrif heddiw.”

Mae’r Bil wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol, gan gynnwys gan yr Aelodau Llafur Cymreig Beth Winter a Geraint Davies; llefarydd Cymru’r Democratiaid Rhyddfrydol, Wendy Chamberlain; a llefarydd y trysorlys yr SNP, Alison Thewliss.