Mae menywod ifanc o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 22) ar ôl cael y cyfle i gysgodi Aelodau’r Senedd ac i edrych ar waith mewnol bywyd gwleidyddol Cymru.

Mae Chwarae Teg, elusen cydraddoldeb rhywedd blaenllaw Cymru, yn cynnal prosiect LeadHerShip i fenywod 16-22 oed, er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ym maes arweinyddiaeth yn y dyfodol.

Yn ystod y dydd, bydd 25 o fenywod ifanc yn cael eu paru ag Aelod o’r Senedd i gael profiad uniongyrchol o ddiwrnod ym mywyd Aelod o’r Senedd, ac yn dysgu sut mae’r Senedd yn gweithio.

Fel rhan o’r diwrnod, bydd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelodau benywaidd o’r Senedd, a bydd merched ifanc wedyn yn cael y cyfle i weld Cwestiynau’r Prif Weinidog a chymryd rhan mewn ’dadl ffug’ am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Menywod yn “absennol” wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru

Dywed Chwarae Teg fod menywod yn dal i fod yn absennol o lawer o rolau gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Er i’r fenyw gyntaf o liw gael ei hethol i’r Senedd fis Mai y llynedd, dywed Chwarae Teg fod “cynrychiolaeth menywod ar bob lefel o lywodraeth yn parhau i fod yn ystyfnig o fregus ac anghyfartal”.

43% o Aelodau Seneddol sy’n fenywod, 35 o Aelodau o’r Senedd, dim ond 29% o gynghorwyr lleol, a 39% yn unig o reolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion.

Mae LeadHerShip Senedd 2022 wedi’i chefnogi gan gorff Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi partneru â Chwarae Teg ar gyfer y digwyddiad drwy ddarparu teithiau trên i gyfranogwyr, a Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n noddi’r digwyddiad.

‘Gwella ymgysylltiad yn allweddol’

“Dechreuon ni LeadHerShip bedair blynedd yn ôl ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi cael derbyniad da gan y menywod ifanc ac ASau,” meddai Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg.

“Mae gwella ymgysylltiad menywod ifanc â gwleidyddiaeth yn allweddol i gynyddu cynrychiolaeth yn y dyfodol.

“Er ei fod yn weddol gytbwys yn y Senedd, mae tangynrychiolaeth amlwg o fenywod amrywiol o hyd a heb weithredu ar y cyd gan bleidiau gwleidyddol rydym wedi gweld cyfran y menywod sy’n cael eu hethol yn gostwng yn y gorffennol.

“Ni allwn fforddio bod yn hunanfodlon a rhaid inni sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu grymuso i chwilio am rolau arwain ar draws bywyd cyhoeddus.”

Mae Jane Hutt wedi croesawu’r digwyddiad.

“Rwy’n falch iawn o allu cyfarfod a siarad â chyfranogwyr yn LeadHerShip Senedd eleni,” meddai.

“Rwy’n gobeithio y bydd y diwrnod yn rhoi dealltwriaeth wirioneddol o sut mae penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl yn cael eu gwneud yn y Senedd a’i fod hefyd yn eu hysbrydoli i gymryd rolau gwleidyddol a gweld eu hunain fel arweinwyr y dyfodol a all wneud gwahaniaeth.”

Ac mae Rachael Holbrook, Partner Amrywiaeth a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru, yn dweud eu bod nhw “yn falch iawn o fod yn noddi LeadHerShip eto eleni”.

“Fel sefydliad rydym yn cydnabod pwysigrwydd a manteision cydraddoldeb rhywedd yn y gweithle a thu allan iddo,” meddai.

“Mae LeadHerShip yn ein galluogi i ddangos hyn drwy gefnogi prosiect rwy’n siŵr a fydd yn cael effaith gadarnhaol ac yn arwain at newidiadau gwirioneddol yn y dyfodol.”