Yn Tsieina mae’n debyg nad oes unrhyw un wedi goroesi damwain awyren oedd yn cludo 132 o bobl.

Roedd yr awyren China Eastern wedi syrthio i’r ddaear mewn ardal goediog a mynyddig ddydd Llun (21 Mawrth). Nid oes unrhyw un wedi cael eu darganfod yn fyw yng ngweddillion yr awyren, yn ôl asiantaeth newyddion y wlad.

Dyma’r damwain awyren waethaf yn y wlad ers degawd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger dinas Wuzhou yn rhanbarth Guangxi tra’n hedfan o  Kunming yn nhalaith Yunnan i ardal Guangzhou. Roedd yr awyren wedi mynd ar dan ar ôl taro’r ddaear, yn ôl lluniau lloeren gan Nasa.

Cafodd cannoedd o weithwyr achub eu hanfon i’r safle.

Roedd yr awyren yn cludo 123 o deithwyr a naw aelod o’r criw.

Mae Arlywydd Tsieina Xi Jinping wedi galw ar dimau achub i wneud popeth yn eu gallu ac mae wedi galw am ymchwiliad i’r ddamwain.

Ni fydd awyrennau Boeing 737-800 yn fflyd China Eastern yn hedfan am y tro ac mae’r cwmni wedi anfon swyddogion i’r safle.

China Eastern yw un o’r tri chwmni hedfan mwyaf yn Tsieina gyda’u pencadlys yn Shanghai.