Mae merch fach 17 mis oed wedi marw yn dilyn ymosodiad gan gi yn ei chartref yn St Helens.

Cafodd Heddlu Glannau Mersi eu galw i’r tŷ yn Blackbrook am 3.50pm ddydd Llun (21 Mawrth) yn dilyn adroddiadau bod ci wedi ymosod ar blentyn.

Cafodd Bella-Rae Birch ei chludo i’r ysbyty lle bu farw o’i hanafiadau. Mae’r ci bellach wedi cael ei ddifa gan yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu y bydd archwiliadau fforensig yn cael eu cynnal i geisio darganfod a oedd y ci yn frid sy’n cael ei ganiatáu o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus (1991).

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Lisa Milligan roedd y ci wedi bod gyda’r teulu ers wythnos yn unig.

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae ein meddyliau gyda theulu’r plentyn ar yr amser hynod o anodd hwn. Mae rhieni’r ferch fach a’r teulu ehangach wedi’u tristau’n arw ac mae ein Swyddogion Cyswllt Teuluol arbenigol yn rhoi cymorth iddyn nhw ar yr adeg ofnadwy hon.

“Tra ein bod ni yng nghamau cynnar iawn yr ymchwiliad i’r digwyddiad hynod drasig hwn gallwn gadarnhau mai dim ond wythnos yn ôl y prynwyd y ci gan y teulu ac mae swyddogion yn gweithio i adnabod perchnogion blaenorol y ci dan sylw a darganfod beth oedd ei hanes.

“Bydd ein swyddogion yn aros yn yr ardal yn y dyddiau nesaf i roi sicrwydd i’r gymuned leol a byddwn yn gweithio’n ddiflino i ddarganfod yr amgylchiadau llawn.”

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ci i gysylltu â nhw.