Lleihau effeithiau tlodi yw bwriad buddsoddiad newydd gwerth £25m gan Lywodraeth Cymru mewn ysgolion, yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles.

Dros y flwyddyn nesaf, fe fydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu mwy o ysgolion bro, sef ysgolion sy’n ceisio meithrin perthynas â’r gymuned er mwyn cefnogi disgyblion sy’n cael eu heffeithio gan dlodi.

Ynghlwm yn y buddsoddiad mae £4.9m ar gyfer penodi mwy o swyddogion mewn ysgolion sy’n delio ag anghydraddoldeb cymdeithasol mewn ysgolion.

Bydd yr £20m sy’n weddill yn mynd tuag at ddarparu mwy o ysgolion bro, ac i ariannu cynlluniau i sicrhau bod ysgolion yn gallu cael eu defnyddio gan y gymuned ehangach.

Y bwriad yn y bôn yw sicrhau bod plant o gefndiroedd tlawd yn elwa o brofiadau a safonau gwell yn eu hysgolion.

Buddsoddiad ‘hanfodol’

Roedd ymrwymo i ehangu ar niferoedd ysgolion bro wedi cael ei nodi yn Rhaglen Lywodraethu’r llywodraeth bresennol rhwng 2021 a 2026.

“Mae mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn hanfodol os ydym am sicrhau dyheadau a safonau uchel i bawb,” meddai Jeremy Miles.

“Rydym yn gwybod bod y cartref a’r gymuned yn dylanwadu’n fawr ar gyfleoedd bywyd plant a phobol ifanc a bod angen rhagor o gymorth ar athrawon i fynd i’r afael â’r materion y mae rhai plant a phobol ifanc yn eu hwynebu.

“Mae ysgolion bro yn datblygu partneriaethau ag ystod o sefydliadau, ac yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn lleol i deuluoedd ac i’r gymuned ehangach.

“Maent yn defnyddio eu cyfleusterau a’u hadnoddau er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan wella bywyd plant, cryfhau teuluoedd ac adeiladu cymunedau cryfach.

“Drwy fuddsoddi mewn ysgolion bro, rydym yn sicrhau bod gan ddysgwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu potensial.

“Yn anad dim, cenhadaeth ein cenedl yw mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a gosod safonau uchel i bawb.

“Rwyf i am i bob person ifanc gael uchelgeisiau mawr ar gyfer eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol ac mae hynny’n golygu defnyddio pob dull sydd gennym i’w cefnogi nhw.”