Bydd modd i’r rheiny sy’n dioddef â thinitws gael cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl i grŵp newydd gael ei lansio.

Cafodd y Grŵp Cefnogi Tinitws Cymraeg Ar-lein ei sefydlu gan Gymdeithas Tinitws Prydain wedi i rai sy’n dioddef â’r cyflwr weld diffygion yn y gwasanaethau oedd eisoes ar gael.

Cyflwr sy’n achosi i’r glust glywed seiniau sydd ddim yno yw tinitws, ac yn ôl amcangyfrif, mae 345,000 o bobol yng Nghymru yn ei brofi.

Mae Clare Young yn un ohonyn nhw, ar ôl cael diagnosis am y tro cyntaf yn 2000, a bydd hi’n arwain y sesiynau misol yn wirfoddol.

‘Pwysig gallu cyfathrebu yn eich mamiaith’

“Cefais ddiagnosis o tinitws yn 2000 ar ôl llawdriniaeth ar ddrwm fy nghlust,” meddai Clare Young.

“Dros y blynyddoedd, rwyf wedi profi ystod o synau gwahanol ac o ganlyniad wedi bod trwy’r broses o fynychu apwyntiadau ENT di-ri.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi dysgu, o’r diwedd, sut i reoli a derbyn gallu clywed fy ymennydd yn siarad ag ef ei hun!

“Rwy’n derbyn yn awr mai dim ond rhan o bwy ydw i ydi tinitws.”

Cred Clare Young, sy’n darlithio mewn coleg yng Nghymru o ddydd i ddydd, bod cael cefnogaeth yn eich iaith gyntaf yn bwysig.

“Rwyf wedi bod yn ddarlithydd coleg yng Ngogledd Cymru am y 21 mlynedd diwethaf felly rwy’n deall ei bod hi’n bwysig gallu cyfathrebu yn eich mamiaith,” meddai wedyn.

“Am y rheswm yma, penderfynais wirfoddoli i gychwyn grŵp cefnogi trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn rhoi cyfle i Gymry Cymraeg drafod eu profiadau gyda’i gilydd.”

‘Help aruthrol’

Bydd cyfarfod cyntaf y grwp yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 23 Mawrth.

Roedd Colette Bunker, Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithas Tinitws Prydain, yn gefnogol o’r syniad o greu grŵp newydd.

“Gall tinitws fod yn gyflwr sy’n ynysu, gyda ffrindiau a theulu’n cael trafferth deall sut deimlad yw addasu i bresenoldeb synau uchel neu barhaus,” meddai.

“Mae bod ymhlith pobol sydd â thinitws, gwrando ar eu profiadau a sut maen nhw’n ei reoli, yn gallu bod yn help aruthrol.

“Rwy’n dyst i hyn yn uniongyrchol wrth fynychu cyfarfodydd grŵp.

“Mae’n anhygoel gweld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud i bobl, yn enwedig y rhai sydd wedi cael diagnosis yn ddiweddar.

“Gobeithio y bydd y grŵp hwn yn golygu bod pobol yn teimlo’n llai unig oherwydd eu bod yn gallu siarad ag eraill yn yr un sefyllfa ac yn yr iaith o’u dewis.”