Nid yw’r modd mae Heddlu Llundain yn mynd i’r afael â llygredd o fewn eu rhengoedd “yn addas i’r pwrpas”, meddai’r corff sy’n goruchwylio’r heddlu.

Nid oedd y llu wedi dysgu gwersi o achos llofruddiaeth Daniel Morgan yn 1987, sy’n dal heb ei ddatrys, ac mae methiannau sylfaenol yn y modd mae’n ceisio mynd i’r afael a llygredd ymhlith ei staff, a bod elfen o ddifaterwch i’r risgiau, yn ôl adroddiad damniol gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, 22 Mawrth).

Cafodd y Cymro Daniel Morgan, a oedd yn dditectif preifat, ei ladd ar Fawrth 10, 1987 ar ôl mynd i dafarn yn Sydenham, a chafwyd hyd i’w gorff yn y maes parcio â bwyell yn ei ben. Nid yw ei lofruddiaeth wedi cael ei ddatrys.

Roedd yr Ysgrifennydd Cartref wedi gofyn i Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) ysgrifennu adroddiad i’r mater. Daeth hyn ar ôl i ymchwiliad annibynnol i’r modd yr oedd yr heddlu wedi delio gydag achos Daniel Morgan gyhuddo Heddlu Llundain o “lygredd sefydliadol”, gan ddweud ei fod wedi celu neu wadu methiannau yn yr achos.

‘Gwendidau sylweddol’

Dywedodd Arolygydd y Cwnstabliaeth Matt Parr fod Heddlu Llundain “weithiau wedi ymddwyn mewn ffyrdd sy’n gwneud iddo ymddangos yn drahaus, yn gyfrinachol ac yn swrth” a bod yn rhaid i 20 argymhelliad HMICFRS ar gyfer newid fod “ymhlith blaenoriaethau pennaf y comisiynydd” er mwyn adfer ffydd y cyhoedd yn y llu.

Dywedodd: “Mae’n annerbyniol, 35 mlynedd ar ôl llofruddiaeth Daniel Morgan, nad yw Heddlu Llundain wedi gwneud digon i sicrhau na all ei fethiannau o’r ymchwiliad hwnnw gael eu hailadrodd.

“Mewn gwirionedd, wnaethon ni ddim dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod rhywun, yn rhywle, o’r farn na ddylai hyn fyth ddigwydd eto. Bydd hyn, yn ddealladwy, yn peri gofid i deulu a ffrindiau Mr Morgan, y byddwn yn anfon ein cydymdeimlad atyn nhw.

“Fe ddaethon ni o hyd i wendidau sylweddol yn null y Met o fynd i’r afael â llygredd o fewn yr heddlu. O fethu â goruchwylio swyddogion heddlu sydd wedi cyflawni troseddau o’r blaen yn briodol, i weithdrefnau fetio annigonol, a llawer mwy ar wahân i hynny, mae’n amlwg nad yw’r trefniadau presennol yn addas i’r diben.”

Canmol

Dywedodd Priti Patel ei bod yn “siomedig iawn bod materion difrifol yn parhau”, gan ychwanegu: “Rhaid gwella’r safonau ar unwaith. Rwy’n disgwyl i Faer Llundain a’r Comisiynydd newydd fynd i’r afael a’r diffygion hyn fel mater o frys.”

Fe wnaeth HMICFRS gydnabod bod “gallu’r heddlu i ymchwilio i’r honiadau o lygredd mwyaf difrifol yn arbennig o dda, a bod heddluoedd eraill yn defnyddio eu harbenigedd yn rheolaidd”. Roedd y corff hefyd wedi canmol y llinell gyfrinachol a’r gefnogaeth oedd yn cael ei roi i’r rhai oedd eisiau adrodd am achosion o lygredd.

Roedd hefyd yn cydnabod bod y Met wedi lleihau’n sylweddol nifer y staff nad oedd yn destun fetio diogelwch.

Canfu’r arolygiad hefyd nad oedd “tystiolaeth o unrhyw ymdrechion bwriadol” gan y Met i “rwystro” gwaith yr ymchwiliad i lofruddiaeth Daniel Morgan.

Dywedodd, er bod llawer i’w feirniadu, yn seiliedig ar yr arolygiad hwn “na fyddai’n disgrifio’r Met fel sefydliad llygredig”.

Yr wythnos ddiwethaf honnodd teulu Daniel Morgan fod “diwylliant o lygredd” yn parhau yn y Met. Maen nhw wedi cyflwyno achos sifil yn erbyn yr heddlu.

Mae Heddlu Llundain wedi gwrthod y canfyddiad o “lygredd sefydliadol” ac wedi rhoi addewid i barhau i geisio datrys llofruddiaeth Daniel Morgan. Mae chwe ymchwiliad wedi cael eu cynnal i’w farwolaeth ynghyd a gwobr o £50,000 am wybodaeth a allai arwain at erlyniad llwyddiannus.