Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ad-dalu cannoedd o is-bostfeistri a wnaeth helpu i ddatgelu sgandal Horizon, ond na welodd eu had-daliadau yn sgil y costau cyfreithiol.

Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi dweud y bydd gweinidogion yn manylu ar y cynllun iawndal yn y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod is-bostfeistri yn derbyn yr un lefel o ad-daliadau ag eraill gafodd eu cyhuddo ar gam o droseddau ariannol yn sgil y system gyfrifiadurol ddiffygiol.

Rhwng 2000 a 2014, cafodd dros 700 o is-bostfeistri eu herlyn ar sail gwybodaeth gan system gyfrifiadurol Horizon a gafodd ei gosod a’i chynnal gan Fujitsu.

Yn 2019, fe wnaeth yr Uchel Lys ddyfarnu bod system Horizon yn cynnwys nifer o ddiffygion ar ol i 555 o is-bostfeistri ddod â’r sgandal i’r amlwg.

Arweiniodd y dyfarniad at ad-daliadau gwerth miliynau, ac ers hynny mae cyhuddiadau rhai o’r is-bostfeistri wedi cael eu gwyrdroi, gan gynnwys rhai o Gymru.

Ond yn sgil cytundeb “dim ennill, dim cost” gyda’u harianwyr cyfreithiol, Therium, dim ond rhan fechan o’r £43 miliwn o ad-daliad y gwnaeth y 555 is-bostfeistr ei dderbyn – tua £20,000 yr un.

Ar yr un pryd, fe wnaethon nhw ddarganfod nad oedden nhw’n gymwys i wneud cais dan Raglen Diffygion Hanesyddol (HSS), a gafodd ei sefydlu gan Swyddfa’r Post i ad-dalu’r bobol oedd wedi defnyddio’u harian eu hunain i dalu am fylchau yng nghyfrifon eu canghennau yn sgil y problemau gyda system Horizon.

‘Ad-dalu’n llawn ac yn deg’

Dywedodd y Trysorlys y byddai’r rhaglen iawndal newydd yn sicrhau y bydd y 555 yn cael yr un lefel o ad-daliadau â’r is-bostfeistri a hawliodd drwy HSS.

Mewn datganiad, dywedodd Rishi Sunak: “Mae’r ddadl ynghylch Horizon IT wedi cael effaith ddinistriol ar bostfeistri a’u teuluoedd, gyda nifer yn colli eu gwaith ac yn cael eu cyhuddo ar gam am droseddau na wnaethon nhw eu cyflawni.

“Heb ymdrechion yr is-bostfeistri hyn, efallai na fyddai’r anghyfiawnder ofnadwy hwn wedi cael ei ddatgelu felly dyw hi ond yn iawn eu bod nhw’n cael eu had-dalu’n llawn ac yn deg.

“Dyna pam ein bod ni wedi sefydlu’r rhaglen ad-dalu newydd hon ar gyfer y rhai wnaeth chwarae rhan hanfodol wrth ddod â’r sgandal hon i’r amlwg, a dw i’n gobeithio y bydd hi’n darparu rhywfaint o gysur.”

Is-bostfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam yn galw am garcharu’r rhai oedd yn gyfrifol

“Dw i eisiau iddyn nhw fynd i’r carchar… ond eto byddai hynny’n fywyd hawdd iddyn nhw,” meddai Margery Lorraine Williams o Ynys Môn