Mae Ben Lake yn galw am “raglen gynhwysfawr” i fynd i’r afael â chostau a threthi cynyddol ar drothwy Datganiad Gwanwyn Canghellor San Steffan heddiw (dydd Mercher, Mawrth 23).
Mae adroddiadau y bydd Rishi Sunak yn cyhoeddi toriad i’r dreth ar danwydd ond mae Plaid Cymru’n galw am ryddhad treth tanwydd gwledig er mwyn lleddfu’r effeithiau i gymunedau gwledig sy’n fwyaf dibynnol ar y defnydd o geir o ganlyniad i ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Plaid Cymru’n dweud y byddai torri’r dreth yn llwyr yn anghyson â thargedau’r hinsawdd, ac y byddai rhyddhad i gymunedau gwledig ac ad-daliadau i sectorau allweddol yn decach.
Mae e hefyd yn ailadrodd ei alwadau am raglen effeithlonrwydd ynni drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi’i datganoli, dileu’r cynnydd arfaethedig mewn Yswiriant Gwladol a chynnig rhyddhad i gyflogwyr bychain drwy gynyddu’r Lwfans Gyflogaeth i £5,000 – rhywbeth sydd wedi’i gefnogi gan Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Mae Plaid Cymru hefyd am weld budd-daliadau’n cynyddu yn unol â chwyddiant, yn hytrach na’r cynnydd arfaethedig o 3.1%, o ystyried bod Banc Lloegr yn darogan y bydd chwyddiant y tu hwnt i 7% fis nesaf.
Yn ôl Sefyliad Joseph Rowntree, byddai cynyddu budd-daliadau o 3.1% ar adeg o chwyddiant sylweddol yn golygu y byddai cartrefi incwm isel, boed yn gweithio neu beidio, sydd â’r hawl i dderbyn budd-daliadau trwy brawf moddion yn wynebu toriadau mewn termau real o £500 y flwyddyn.
‘Anfaddeuol’
Yn ôl Ben Lake, byddai’n “anfaddeuol” pe bai pobol yn cael eu gorfodi i wynebu caledi wrth i gostau byw gynyddu.
“Mae pobol a busnesau ledled Cymru’n wynebu costau sylweddol uwch a chynnydd mewn trethi,” meddai.
“Heddiw, mae gan y Canghellor gyfle euraid i gyhoeddi rhaglen gynhwysfawr o gefnogaeth i fusnesau a chartrefi sy’n ei chael hi’n anodd dan bwysau costau cynyddol.
“Bydd busnesau a chartrefi gwledig yn arbennig yn cael eu taro gan y cynnydd mewn prisiau tanwydd ac ynni.
“Yn ei Ddatganiad Gwanwyn, rhaid i’r Canghellor ddiwygio’r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig i helpu ardaloedd yng Nghymru lle mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar y defnydd o geir ar gyfer teithiau hanfodol, a chyflwyno cynllun ad-daliad dros dro i sectorau allweddol megis cludo a thrafnidiaeth gyhoeddus.
“Ymhellach, ddylai’r Canghellor ddim gwastraffu unrhyw amser yn cyflwyno buddsoddiad i wella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai.
“Mae Plaid Cymru’n galw am ôl-ffitio tai uchelgeisiol i leihau biliau ynni yn y tymor hir, y dylid ei gyflwyno drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i datganoli.
“Dylai’r Canghellor wneud defnydd o dderbynebau treth gwell i ailystyried y cynnydd arfaethedig mewn Yswiriant Gwladol, a fan lleiaf dylai gynyddu’r lwfans gyflogaeth er mwyn galluogi busnesau bach i barhau i fasnachu heb gynyddu costau i gwsmeriaid.
“Yn olaf, mesur y mae’n rhaid i’r Canghellor ei gyhoeddi ar unwaith yw cynnydd mewn budd-daliadau yn unol â chwyddiant.
“Byddai gwrthod yn golygu y byddai naw miliwn o gartrefi incwm isel sydd â’r hawl i fudd-daliadau ar sail prawf moddion, sydd mewn gwaith ac allan o waith, yn profi toriad mewn termau real o £500 y flwyddyn.
“Byddai’n anfaddeuol gorfodi’r fath galedi ychwanegol ar bobol pan fo costau byw eisoes yn cynyddu’n sylweddol.”