Mae Cylch yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o dorri’u haddewid i ddiogelu enwau lleoedd.

Yn ôl Cylch yr Iaith, maen nhw wedi cael ar ddeall gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, nad oes unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau gwarchodaeth statudol i enwau lleoedd Cymraeg nac enwau tai Cymraeg.

Roedd y Cytundeb Cydweithio yn cynnwys ymrwymiad “i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”, ond yn ôl Cylch yr Iaith maen nhw’n torri’r addewid hwnnw.

Dim ond hyrwyddo enwau lleoedd Cymraeg yw’r bwriad, yn ôl Cylch yr Iaith.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n “ymrwymedig i sicrhau bod enwau lleoedd yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”, a does dim penderfyniadau wedi cael eu gwneud eto.

‘Dim ond deddfwriaeth all ddiogelu’r enwau’

Mewn datganiad, dywedodd y mudiad iaith bod ymateb Llywodraeth Cymru’n “dangos yn glir nad ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â gwarchod ein henwau lleoedd”.

“Does dim bwriad gan Lywodraeth Cymru i ‘ddiogelu’ enwau lleoedd Cymraeg, sef rhan allweddol yr ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio,” meddai Cylch yr Iaith.

“Dim ond deddfwriaeth fyddai’n gallu diogelu enwau lleoedd Cymraeg rhag cael eu disodli gan enwau Saesneg – tueddiad sy’n mynd rhagddo’n ddiarbed ers tro ac sy’n parhau heb ei atal.

“Dim ond ‘hyrwyddo’ enwau lleoedd Cymraeg y bwriedir ei wneud, sef yr hyn sydd eisoes wedi bod yn digwydd i ryw raddau.

“Mae hyd yn oed eu bwriadau i hyrwyddo defnydd o enwau lleoedd yn gwbl annigonol, ac rydym wedi anfon rhestr o argymhellion at y Gweinidog ynghylch sut y gellid hyrwyddo defnydd o enwau lleoedd Cymraeg.

“Mae hi’n hen bryd gweithredu’n gadarn ar y mater yma, a dyletswydd Llywodraeth Cymru ydi defnyddio deddfwriaeth i warchod rhan mor bwysig o’n hetifeddiaeth fel cenedl.

“Mae enwau lleoedd yn rhan gynhenid o dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol; yn rhan annatod o’n hunaniaeth fel gwlad.

“Rydym yn galw ar Weinidog y Gymraeg i gomisiynu astudiaeth gymharol i ganfod sut mae llywodraethau gwledydd eraill yn defnyddio deddfwriaeth i warchod enwau lleoedd cynhenid yn eu hieithoedd cenedlaethol, a symud ymlaen i sicrhau gwarchodaeth statudol.”

‘Cryn amlygrwydd’

Mae Cylch yr Iaith wedi darparu rhestrau o enghreifftiau o enwau lleoedd Cymraeg yng Ngwynedd, Môn, a Chonwy sy’n cael eu disodli, medden nhw, gan enwau Saesneg, gyda’r enwau Saesneg yn cael eu defnyddio ar wefannau, mewn cyhoeddiadau fel mapiau, ac yn y wasg.

Mae enwau megis Hell’s Mouth am Borth Neigwl yn Llŷn, Bala Lake yn lle Llyn Tegid, Mushroom Garden am Coed Cerrig y Frân yn Nant Ffrancon, a Bull Bay am Borth Llechog ym Môn, ymysg yr enghreifftiau.

“Mae’r ffurfiau Saesneg yn cael cryn amlygrwydd felly, ac yn cael eu defnyddio ar lafar nid yn unig gan y di-Gymraeg ond gan siaradwyr Cymraeg hefyd, yn enwedig y genhedlaeth iau,” meddai Cylch yr Iaith.

“Dyma sut mae enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu colli.”

Galwadau

Mae Cylch yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth briodol i warchod enwau lleoedd, a sicrhau bod enwau lleoedd yn rhan o gwricwlwm newydd ysgolion cynradd ac uwchradd drwy gyd-gysylltu iaith, daearyddiaeth, ac astudiaethau’r amgylchedd.

Maen nhw hefyd am sicrhau bod Swyddfa’r Arolwg Ordnans a chynhyrchwyr mapiau eraill yn cywiro mapiau gan nodi’r enw Cymraeg gwreiddiol lle bo enw Saesneg ar hyn o bryd, cael gwared ar enwau Saesneg lle bo’r ddwy iaith yn cael ei defnyddio, ac ychwanegu enwau lleoedd Cymraeg sydd ddim ar fapiau ar y funud.

Byddai Cylch yr Iaith yn hoffi gweld bod cronfeydd data cynghorau sir yn gyflawn ac yn gywir hefyd, yn cynnwys enwau lleoedd Cymraeg yn unig, a’i bod hi’n ofynnol i’r wasg ddefnyddio’r ffurfiau hynny.

Ynghyd â hynny, maen nhw am i Gyngor Mynydda Prydain ddefnyddio eu dylanwad i sicrhau nad yw enwau Saesneg ar ddringfeydd yn disodli rhai Cymraeg.

Dywedodd Cylch yr Iaith eu bod nhw wedi cysylltu ag Aelodau o’r Senedd Plaid Cymru sy’n monitro’r ffordd mae ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio’n cael eu gweithredu, gan fynegi eu siom a’u pryder a galw arnyn nhw i sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n deall na ellir diogelu enwau lleoedd heb ddeddfu.

‘Dim penderfyniad eto’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ymrwymedig drwy’r Cytundeb Cydweithio i weithredu i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym hefyd wedi ymgynghori’n ddiweddar ar gynigion ar gyfer ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, oedd yn cynnwys cynigion ar ddiogelu enwau lleoedd a thai.

“Byddwn yn cyhoeddi’r cynllun yn ddiweddarach eleni ar ôl i’r ymatebion i’r ymgynghoriad gael eu hystyried. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ar y cynllun eto.”