Bydd cynghorau sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn ymrwymo i’r nod o gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd.

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bydd yr awdurdodau lleol yn ymestyn y cynllun Prydau Ysgol Rhad ac Ddim i gynnwys ysgolion uwchradd yn ystod tymor nesaf y cyngor.

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, gyda disgwyl i hynny ddechrau ym mis Medi.

Ond wrth siarad cyn ei brif araith yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yng Nghaerdydd heddiw (Mawrth 25), dywedodd Adam Price y byddai cynghorau dan arweiniad ei blaid yn “ymrwymo i osod y nod ac yn dechrau cynllunio ar unwaith” i gynnig prydau am ddim i’r holl ddisgyblion uwchradd o fewn y pum mlynedd nesaf.

‘Dileu tlodi plant’

Wrth siarad ar yr addewid i ymestyn prydau ysgol am ddim, bydd Adam Price yn dweud: “Hanner ffordd drwy’r Senedd ddiwethaf fe benderfynon ni wneud prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn brif flaenoriaeth i ni.

“Dyma’r ffordd orau, o fewn grymoedd cyfredol y Senedd, y gallem ni wneud gwahaniaeth a dechrau dileu tlodi plant yng Nghymru, sy’n effeithio ar draean o’n plant.

“Mae cael gwared ar ddyled arian cinio a chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â chael cinio am ddim yn golygu bod plant yn cael pryd o fwyd poeth, iach yn ystod cam ffurfiannol yn eu datblygiad – all plant sydd eisiau bwyd ddim dysgu na chyflawni eu gwir botensial.

“Dim ond achos Plaid Cymru y bydd Prydau Ysgol Am Ddim yn digwydd – gyda’n gilydd, rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

“Rydym nawr yn bwriadu mynd â’r polisi ymhellach. Gallaf gyhoeddi heddiw mai rhan allweddol o’n harlwy yn yr ymgyrch etholiad cyngor sydd ar y gweill yw y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i osod y nod ac yn dechrau cynllunio ar unwaith i ymestyn Prydau Ysgol am Ddim i bob disgybl ysgol uwchradd o fewn y pum mlynedd nesaf.”

‘Adeiladu’r genedl’

Byddai cynnig prydau ysgol am ddim yn ffordd o ddechrau creu Cymru sy’n rhydd o dlodi, mae disgwyl iddo ychwanegu.

“Trwy ein Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol byddwn yn creu Cymru sy’n rhydd o wewyr mewn henaint,” meddai Adam Price.

“Trwy reoli rhenti a hawl i dai byddwn yn creu Cymru sy’n rhydd o ddigartrefedd. A thrwy ddysgu cynnar a gofal plant o ansawdd uchel, yn ddwyieithog, ac yn rhad ac am ddim, byddwn yn adeiladu Cymru lle gall pob plentyn gyrraedd eu llawn botensial.

“Dyma pam mae’r etholiadau lleol mor bwysig. Mae pob cynghorydd Plaid a etholwyd, pob cyngor Plaid a ffurfiwyd, yn adeiladu’r genedl o’r gwaelod i fyny.”

Bydd Adam Price yn talu teyrnged i gynghorwyr a chynghorau dan arweiniad Plaid Cymru sy’n “adeiladu’r genedl o’r gwaelod i fyny” yn ystod yr araith.

Mae disgwyl iddo hefyd ailddatgan ei undod, ac undod y blaid, gyda phobol Wcráin.