Mae Llywodraeth Cymru yn “awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu” i gadw’r manteision o weithio o bell tu hwnt i’r pandemig.
Mewn strategaeth newydd a gafodd ei chyhoeddi heddiw (Mawrth 25), mae Llywodraeth Cymru’n nodi cynlluniau i gydweithio â busnesau, undebau llafur, a rhanddeiliaid i helpu mwy o gyflogwyr i fabwysiadu dull mwy hyblyg o weithio.
Maen nhw am weld gweithwyr yn gallu dewis y ffordd maen nhw am weithio, boed hynny’n lleol o le gwaith sy’n cael ei rannu â gweithwyr eraill, oddi cartref, neu gymysgedd o’r ddau.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu platfform ar-lein sy’n helpu pobol i ddod o hyd i leoedd gwaith sy’n lleol iddyn nhw.
‘Llu o fanteision’
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, mai un o’r gwersi mae Llywodraeth Cymru wedi’u dysgu o’r pandemig yw nad yw llawer o bobol eisiau neu angen bod mewn amgylchedd gweithle traddodiadol i wneud gwaith.
“Mae gweithio o bell yn dod â llu o fanteision gydag ef,” meddai Lee Waters.
“Yn ogystal â helpu pobl i ddianc rhag y cymudo a datblygu gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae gweithio’n lleol hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth adfywio canol ein trefi drwy ddod â phobl i galon y gymuned i weithio a siopa, yn ogystal â lleihau tagfeydd a lleihau allyriadau carbon.
“Ond ni allwn gyflawni ein huchelgais ar ein pennau ein hunain, mae gan bawb ran i’w chwarae a byddwn yn parhau i ledaenu’r neges i gadw y newidiadau cadarnhaol rydym eisoes wedi’u gwneud a mynd i’r afael â’r negyddoldeb i gefnogi mwy o fusnesau i symud tuag at weithio hyblyg.”
‘Cefnogi cyflogwyr’
Ychwanegodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Cymru, bod y strategaeth sy’n cael ei lansio heddiw’n nodi sut y byddan nhw’n annog mwy o hyblygrwydd a dewis i weithwyr, a mwy o hyblygrwydd i fusnesau a sefydliadau ar draws pob sector economaidd.
“Fel y nodwyd yn ein Cenhadaeth Economaidd, mae manteision gweithio o bell i fusnesau a sefydliadau sy’n gallu addasu yn glir – mwy o gynhyrchiant a llai o absenoldeb oherwydd salwch, mwy o gyfleoedd gwaith i bobl mewn cymunedau gwledig a lled-wledig, a mynediad at weithlu ehangach a mwy amrywiol.
“At hynny, bydd ein Gweledigaeth Strategol ar gyfer Manwerthu sydd ar y gweill yn amlinellu sut y gall y sector manwerthu fanteisio ar gyfleoedd i bobl weithio’n agosach at adref.
“Ni fyddwn yn mandadu targedau ar gyfer cyflogwyr nac unigolion – yn hytrach, rydym yn anelu at gefnogi cyflogwyr a gweithio gydag undebau llafur i arddangos arfer gorau.
“Credwn y dylid cyflwyno’r ffyrdd newydd hyn o weithio a’u cynnal yn unol â’r egwyddorion gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr iddynt.”