Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wedi galw ar bennaeth P&O Ferries i ymddiswyddo ar ôl iddo gyfaddef bod y cwmni wedi torri’r gyfraith gyflogaeth drwy ddiswyddo 800 o weithwyr heb rybudd.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi addo gorfodi’r cwmni fferi i wneud “tro pedol” a thalu’r isafswm cyflog i’w weithwyr.

Dywedodd  Grant Shapps wrth Sky News heddiw (25 Mawrth) bod sylwadau’r prif weithredwr Peter Hebblethwaite yn “syfrdanol, ac yn dangos haerllugrwydd anhygoel”.

Ychwanegodd: “Ni alla’i gredu y gall aros yn y rôl ar ôl cyfaddef iddo’n fwriadol dorri’r gyfraith, a  defnyddio bwlch yn y gyfraith.”

Pan ofynnwyd i Grant Shapps a oedd yn galw ar Peter Hebblethwaite i ymddiswyddo atebodd, “Ydw”.

Roedd pwysau gan Aelodau Seneddol ar Peter Hebblethwaite i ymddiswyddo ddydd Iau (24 Mawrth) ar ôl iddo gyfaddef ei fod y gwybod y dylai’r cwmni fferi fod wedi ymgynghori gyda’r undebau cyn diswyddo’r gweithwyr.

£5.50 yr awr

Wythnos ddiwethaf, roedd P&O Ferries wedi eu diswyddo a rhoi’r gwaith i weithwyr asiantaeth sy’n rhatach. Fe gyfaddefodd y prif weithredwr bod y criwiau newydd yn cael eu talu llai na’r isafswm cyflog yn y DU ar wahân i lwybrau domestig, ond roedd yn mynnu bod hyn yn cael ei ganiatáu o dan reolau morwrol rhyngwladol.

Mae’r criw newydd yn cael eu talu £5.50 yr awr yn unig. Yr isafswm cyflog yn y DU i bobl dros 23 oed yw £8.91 yr awr.

Dywedodd Grant Shapps bod y Llywodraeth yn bwriadu newydd y gyfraith i sicrhau bod cwmnïau sy’n gweithredu o borthladdoedd yng ngwledydd Prydain yn talu’r isafswm cyflog a fyddai’n gorfodi P&O i wneud tro pedol.

Ychwanegodd bod P&O wedi rhoi taliadau diswyddo uwch na’r disgwyl i’r staff “er mwyn sicrhau eu tawelwch”.

Yn ystod cyfarfod o’r pwyllgor dethol ar drafnidiaeth a busnes y Senedd ddydd Iau, dywedodd Peter Hebblethwaite bod Grant Shapps yn gwybod am eu bwriadu i dorri swyddi nol ym mis Tachwedd y llynedd er bod hynny wedi cael ei wadu gan yr Adran Drafnidiaeth.

Dywedodd yr Undeb Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) y bydd yn cwrdd â P&O ddydd Gwener i fynnu bod y gweithwyr gafodd eu diswyddo yn cael eu swyddi yn ôl.