Dydy ysgolion methu mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar eu pennau eu hunain, meddai undeb NAHT Cymru.
Wrth siarad â Phwyllgor Plant, Pobol Ifanc, ac Addysg y Senedd, fe wnaeth arweinwyr ysgolion annog Llywodraeth Cymru i gydweithio ag undebau ac arweinwyr ysgolion i gynnig datrysiad i’r sefyllfa.
Roedd y pwyllgor yn trafod canfyddiadau adroddiad diweddar Estyn, a ddangosodd bod bron i hanner disgyblion uwchradd Cymru wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol gan ddisgybl arall.
Mae NAHT Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â materion ariannu sy’n wynebu ysgolion, gan sicrhau bod gwasanaethau cefnogi sy’n cydweithio ag ysgolion â digon o adnoddau.
Fe wnaeth yr undeb gwestiynu pam bod y llywodraeth yn rhwystro ysgolion rhag mynd i’r afael â materion fel hyn, gan ganolbwyntio ar bolisïau “diangen” fel diwygio’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol.
‘Her anferth’
Wrth siarad â’r pwyllgor, dywedodd Laura Doel, Cyfarwyddwr NAHT Cymru: “Mae ysgolion yn sylweddoli bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn her anferth sy’n eu hwynebu ac maen nhw wedi bod yn gweithio ar fynd i’r afael â’r materion hyn ymhell cyn i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi.
“Er bod ysgolion yn gwneud gwaith aruthrol i addysgu dysgwyr, atal, ac addysgu am oblygiadau gwarchod, mae’n rhaid i ni gydnabod nad yw ysgolion yn gallu gwneud hyn ar eu pennau eu hunain.”
Fe wnaeth 61% o ddisgyblion benywaidd nodi eu bod nhw wedi cael ei haflonyddu gan ddisgybl arall, o gymharu â 29% o fechgyn.
Fodd bynnag, daeth yr adroddiad i’r canlyniad bod aflonyddu rhywiol ymhlith disgyblion yn digwydd yn amlach tu allan i’r ysgol, yn enwedig drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar wefannau gemau.
“Mae yna broblem gymdeithasol sy’n mynd ymhell tu hwnt i giatiau’r ysgol,” ychwanegodd Laura Doel.
“Mae ein haelodau’n gweithio gyda’u dysgwyr i ddad-normaleiddio’r ymddygiad a’r agwedd hon sy’n gyffredin mewn cymdeithas – o’r hysbysebion rydych chi’n eu gweld, y cylchgronau maen nhw’n eu darllen, y gerddoriaeth maen nhw’n gwrando arni, a’r sgyrsiau a’r arferion maen nhw’n eu gweld gan bobol o’u cwmpas.”
‘Cydweithio’
Dywedodd Chris Parry, prifathro Ysgol Lewis ym Mhengam, Cwm Rhymni wrth y gwrandawiad, ei bod hi’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru, undebau llafur, ac arweinwyr ysgolion yn cydweithio er mwyn cynnig ymateb i’r pryderon dwfn sy’n bodoli ar y mater.
“Mae’n gysur gweld bod pawb yn deall arwyddocâd sicrhau adnoddau, gweithio gyda nifer o asiantaethau gwahanol, a chynnig gofod yn y diwrnod ysgol i arbenigwyr flaenoriaethu maes mor gymhleth a heriol o waith ysgol.”
‘Cwbl annerbyniol’
Mae unrhyw fath o aflonyddu rhywiol yn gwbl annerbyniol ac ni ddylid ei oddef, meddai Llywodraeth Cymru.
“Mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth ar draws Llywodraeth Cymru bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cefnogi, a’u bod yn teimlo y gallant roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt,” meddai llefarydd ar eu rhan.
“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o ansawdd uchel. O fis Medi 2022, mae ein cwricwlwm newydd yn cynnwys Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n nodi’r dysgu gorfodol yn y maes hwn.
“Mae dysgu am berthnasoedd iach yn rhan orfodol o’r Cod, a fydd yn helpu i gynyddu dealltwriaeth o berthnasoedd diogel, cydsyniol, teg a chadarnhaol ar y pwynt sy’n briodol yn ddatblygiadol.”