Mae plaid wleidyddol Junts per Catalunya, sydd o blaid annibyniaeth, wedi cefnu ar gytundeb i addasu deddfwriaeth yn ymwneud â’r defnydd o’r iaith Gatalaneg mewn ysgolion.

Daeth y blaid i gytundeb gyda thair plaid arall – Esquerra Republicana (ERC), y Sosialwyr ac En Comú Podem – tros y nod o addasu’r polisi iaith ddiwrnod cyn cyflwyno gorfodaeth i 25% o’r addysg fod drwy gyfrwng y Sbaeneg yn yr ystafell ddosbarth.

Roedd hyn ar ôl i’r Goruchaf Lys gadarnhau penderfyniad Uchel Lys Catalwnia ar Dachwedd 23 y llynedd.

Yn ôl Junts per Catalunya, fe wnaethon nhw’r tro pedol gan nad oedd y newid wedi cael ei groesawu’n eang gan fudiadau sy’n ceisio gwarchod yr iaith, a bydd y grŵp seneddol bellach yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth er mwyn ceisio consensws ar y mater.

Pe bai’r mesur a gafodd ei gyflwyno gan y pleidiau wedi dod i rym, fe fyddai wedi golygu bod y Gatalaneg yn cael ei hystyried yn “iaith Catalwnia” – mae’r gyfraith yn disgrifio’r iaith fel prif gyfrwng addysg mewn ysgolion, ond gall y Sbaeneg gael ei defnyddio fel iaith addysg yn ôl disgresiwn sefydliadau unigol.

Daeth cadarnhad gan Josep González-Cambray, y Gweinidog Addysg, ddechrau’r wythnos na fyddai’n rhaid i ysgolion gynyddu nifer y gwersi sy’n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Sbaeneg erbyn diwedd yr wythnos, ac y byddai’r llywodraeth yn gwneud datganiad yn amddiffyn y Gatalaneg ar ôl ceisio barn sefydliadau a mudiadau.

Mae e hefyd yn dweud y dylid cyfeirio unrhyw gwynion am gyfrwng addysg mewn ysgolion ato fe, ac nid at yr ysgolion unigol.