Mae Plaid Cymru yn cael “dylanwad uniongyrchol ar raglen y Llywodraeth” o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio mae’r blaid wedi’i lofnodi gyda Llafur, yn ôl Siân Gwenllian.
Mae’r Cytundeb yn ymdrin â 46 o feysydd polisi, gan gynnwys ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ehangu’r ddarpariaeth gofal plant.
Dydy Aelodau Plaid Cymru ddim wedi ymuno â Llywodraeth Cymru fel Gweinidogion na Dirprwy Weinidogion, ond mae’r blaid wedi penodi Siân Gwenllian a Cefin Cambell yn aelodau dynodedig ar gyfer y cytundeb.
Ar ben hynny, mae pwyllgorau sy’n cynnwys Gweinidogion y Llywodraeth ac aelodau dynodedig Plaid Cymru wedi cael eu sefydlu i gytuno ar faterion sydd wedi’u cynnwys yn y cytundeb.
‘Blaenoriaethau polisi Plaid Cymru’n “ganolog” i raglen y Llywodraeth’
Wrth siarad â golwg360 yng nghynhadledd Plaid Cymru, dywed Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, fod y cytundeb cydweithio “yn arwyddocaol iawn oherwydd mae blaenoriaethau polisi’r Blaid yn ganolog rŵan i raglen y Llywodraeth”.
“Mae yna 46 maes polisi sy’n amrywio o ginio am ddim i ofal plant, newid hinsawdd, materion diogelu cefn gwlad,” meddai.
“Mae yna ystod eang o bolisïau yn y fan yna, ac rydan ni’n cael dylanwad uniongyrchol ar raglen y Llywodraeth a’r ffordd mae’r polisïau yn y meysydd yna yn datblygu.
“Mae’r cytundeb yn gweithio mewn ffordd sy’n rhoi llais penodol i dri ohonom ni o fewn y Blaid, sef Cefin Cambell a finnau fel yr aelodau dynodedig sy’n gweithio efo Gweinidogion, ac Adam Price fel yr arweinydd sy’n cwrdd yn rheolaidd gyda Mark Drakeford
“Mae’r mecanwaith yna i ni allu cael dylanwad ac mae’r dylanwad yn dechrau cael ei weld mewn sawl maes rŵan – er enghraifft mae’r Llywodraeth yn rowlio allan cinio am ddim i blant cynradd ym mis Medi, felly dyna weithredu un o’r polisïau yma yn amserol ac mae o’n mynd i helpu pobl yn yr argyfwng costau byw a sicrhau nad yw plant yn llwglyd yn yr ysgol.
“Yn y maes gofal plant mae yna gyhoeddiad wedi cael ei wneud yn ddiweddar gan Julie Morgan a minnau ein bod ni’n mynd i ddechrau ar y broses o adeiladu sector gofal plant gwydn yng Nghymru drwy ehangu cynlluniau Dechrau’n Deg sy’n cael ei redeg gan lywodraeth leol.”
Ail gartrefi a’r premiwm
“Enghraifft arall ydi ail gartrefi,” meddai wedyn.
“Mae yna ystod o fesurau yn cael eu trafod ar hyn o bryd ynglŷn â dechrau mynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, un cyhoeddiad sydd wedi bod ond mae yna nifer o gyhoeddiadau eraill ar y gweill.
“Felly’r cyhoeddiad cyntaf ydi rhoi’r gallu i gynghorau sir godi premiwm 300% ar ail gartrefi drwy’r system treth cyngor, mae hwnna wedi cael ei basio’r wythnos yma gan y Senedd, ond mae yna fwy i ddod.
“Dydy hwnna ar ben ei hun ddim yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr, ond beth mae o yn ei olygu ydi arwydd bod Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn cymryd hyn o ddifrif, ac eto, dylanwad y cytundeb cydweithio sy’n gyrru’r agenda yna ymlaen.”
“Canolbwyntio ar gyflawni”
Fodd bynnag, nid pawb sy’n canu clodydd y cytundeb cydweithio.
Wrth siarad â Golwg yr wythnos diwethaf, honnodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, mai “rhywbeth oedd yn digwydd y tu ôl i lenni beth bynnag, gyda Phlaid Cymru a Llafur yn dod i gytundeb ar faterion gwahanol” yw’r cytundeb.
“Wedi’r cwbl, yr un blaid sy’n gweithredu o’r canol chwith ydyn nhw yn y bôn,” meddai.
“Mae hi nawr i fyny iddyn nhw i gyflawni’r hyn maen nhw wedi ei gynnwys yn y cytundeb.
“Ond dw i ddim yn gweld beth mae Plaid Cymru yn ei gael allan o’r cytundeb, i fod yn hollol onest, oherwydd maen nhw’n cynrychioli rhan gymharol fychan o’r stad wleidyddol, a dydy’r blaid leiaf mewn clymbleidiau neu gytundebau cydweithio fel hyn ddim yn dueddol o wneud cystal pan ddaw hi yn adeg etholiad.”
Wfftio’r honiadau hyn wnaeth Siân Gwenllian gan fynnu bod Plaid Cymru yn “canolbwyntio ar gyflawni”.
“Dydy’r Torïaid ddim yn licio hyn o gwbl ac mae hynny yn dweud cyfrolau i mi oherwydd os nad ydyn nhw’n licio rhywbeth mae’n rhaid ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn,” meddai.
“Mi ydan ni’n gwneud rhywbeth cwbl newydd yn fan hyn, mi ydan ni’n cydweithio, a dyna’r gair allweddol, cydweithio efo Gweinidogion yn y meysydd sydd yn y cytundeb cydweithio ac mi ydan ni’n dylanwadu, does dim dwywaith am hynny.
“Mae’r ymrwymiadau sydd yn y cytundeb cydweithio yn rhan o raglen y Llywodraeth, maen nhw yn digwydd.
“Dw i’n gwybod nad yw’r Torïaid yn licio beth sydd yn y cytundeb o ran y meysydd polisi achos maen nhw’n fesurau radical sy’n mynd i drawsnewid cymdeithas ac arwain at fwy o gydraddoldeb, a dydy’r Torïaid ddim yn licio symud tuag at fwy o gydraddoldeb.
“Felly dw i jyst yn anwybyddu beth maen nhw yn ei ddweud ac yn canolbwyntio ar gyflawni, a dyna sy’n bwysig, cael budd i bobol Cymru allan o’r cytundeb yma dros y tair blynedd nesaf.”