“Y sialens i ni dros y pedair blynedd nesaf yw bod yn wrthblaid effeithiol i’r Llywodraeth yn ogystal â datblygu naratif sy’n dangos yr hyn allith y Ceidwadwyr Cymreig ei gyflawni pe bydden ni’n cael cyfle i lywodraethu yma yng Nghymru”

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn mynnu nad yw’r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn ei boeni gan ei ddisgrifio fel “rhywbeth oedd yn digwydd y tu ôl i lenni beth bynnag”.