Felin yn ennill eto
Curo Llai 4-3 mewn epig o gêm wnaeth y Felinheli dros y penwythnos. Cic o’r smotyn yn y munudau ola’ wnaeth ei hennill hi i’r Felin yn dilyn gêm llawn cyffro.
Hon oedd y drydedd gêm y tymor yma yn erbyn Llai, a choeliwch neu beidio, mae 23 o goliau wedi cael eu sgorio yn y tair gêm!
Dinbych, sy’n drydydd yn y tabl, fydd yn Seilo y Sadwrn nesaf, gyda’r gic gyntaf am 2.30pm. Felly, drigolion BangorFelin360 ewch draw i gefnogi’r ‘ogia.
Bafta i gyn-ddisgybl Ysgol Dyffryn Ogwen
Bu Dion Wyn Hughes yng ngwobrau’r Bafta’s y penwythnos yma i dderbyn y wobr “For the Love of Film” am ei ymdrechion i annog pobl ifanc i fanteisio i’r eithaf ar y celfyddydau.
Mae Dion yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda llu o fudiadau yn yr ardal gan rannu ei frwdfrydedd dros ffilm. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Dion wedi cydlynu cynllun ‘Ffilm Ifanc’ – menter sy’n ceisio annog pobl ifanc BroOgwen360 i ymwneud .’r diwydiant ffilmiau, gan gynnig hyfforddiant gan arbenigwyr.
Ysgol Bro Pedr yn sefyll gydag Wcráin
Llwyddodd yr ysgol yn Llanbedr Pont Steffan i godi dros Åí1,800 i gefnogi pobol Wcráin, diolch i ymdrechion staff a disgyblion. Codwyd arian gan bawb oedd am wisgo dillad glas a melyn i’r ysgol, a chafwyd stondin cacennau a nifer o weithgareddau eraill. Mwy gan un o’r disgyblion – Ifan Meredith – ar Clonc360.