Mae’r arlunydd dawnus 37 oed yn byw yn “down town Treorci” gyda’i wraig Becky a’u merched Eira a Mali.
Mae newydd fod yn Fardd y Mis ar Radio Cymru ac mae yn un o gyflwynwyr y rhaglen Cynefin ar S4C…
Beth yw eich prif waith?
Wnaeth rywun ddisgrifio fi fel “Corwynt Creadigol”, a fi’n lico hwnna, lot yn well na creative freelancer…
Os yw’r gwaith yn talu, ac yn greadigol, fe wnaf i fe.
Sut wnaethoch chi gychwyn cyflwyno ar deledu?
Trwy ddamwain a hap. Wnaeth rhywun o gwmni teledu gysylltu ar twitter, eisiau help i ymchwilio i gyfres ar y Cymoedd.
Ar y pryd roeddwn i yn trydar yn Gymraeg am gemau rygbi Treorci, wrth iddyn nhw gael eu chwarae, a gwneud ambell jôc ag ati.
Ac roeddwn i wastad yn gwneud lluniau o’r Cymoedd, felly wnes i fapiau a darluniau i’r rhaglen… a wnaethon nhw ofyn i fi wneud cyfweliad bach ar y ffôn…
A benderfynon nhw eu bod nhw eisiau i fi gyflwyno, oedd yn annisgwyl. Lwcus!
Beth fuoch chi’n ei wneud cyn troi at gyflwyno yn 30 oed?
Dw i wedi gwneud dros 70 o wahanol swyddi ers gadael coleg. Mynd o un i’r llall, ddim yn gwybod beth oeddwn i eisiau gwneud.
Wnes i hyfforddi fel kitchen fitter, painter and decorator, gweithio mewn ffatris…
Pryd wnaethoch chi sylwi bo ganddo chi ddawn am greu lluniau?
Ro’n i wastad yn darlunio ar gefn llyfrau ysgol ac yn hoffi portreadu pobol, a ddes i yn dda am wneud caricatures a phortreadu yn gyflym.
A’r peth gorau oedd cael i-pad, wnaeth e newid sut roeddwn i yn gallu arlunio. Mae 90% o’r gwaith nawr ar yr i-pad.
Faint wneith pobol dalu am bortread?
Os ydw i mas ar y stryd gyda pen a papur, £5 y tro fel arfer, ond dibynnu ar y maint a’r steil. Mae rhai wedi mynd am bron i £100.
Y mwyaf o bortreadau i fi wneud oedd mewn priodas mewn gwesty yng Ngwbert, ar noson Cymru v Gwlad Belg [Ewro 2016] a wnes i 142 cartoon mewn pedair awr. Fel arfer rydw i’n gwneud tua ugain…
Sut brofiad oedd bod yn Fardd y Mis ar Radio Cymru?
Grêt! Ges i ddewis pa raglenni i fynd arnyn nhw, felly roedd un Rhys Mwyn yn un amlwg oherwydd fod e’n licio mynd ar ôl themâu.
Wnes i gerdd am y sîn goth, emo, hard metel oedd yn bodoli yn y Cymoedd pan oeddwn i yn tyfu lan. Does dim cofnod ohono fe, dim social media bryd hynny.
Wnes i sgrifennu 12 cerdd mewn mis, sy’n lot. Mae e’n amlwg wedi agor rhyw ddrws creadigol i rywbeth cwbl wahanol. Ac rydw i’n lico her newydd.
Beth fuoch chi’n ei wneud mewn band?
Fues i yn canu a chwarae gitâr mewn band blues rock o’r enw Pine Barrens, oedd wedi ei enwi yn deyrnged i ein hoff bennod o The Sopranos.
Roedden ni yn meddwl fod e’n enw eitha’ unigryw, ond roedd yna tua deg band arall o’r enw Pine Barrens!
Pwy yw eich hoff fandiau?
Ar hyn o bryd, Los Blancos, Papur Wal, Gwilym, Carwyn Ellis, ac yn Saesneg fi’n lico Girl In Red, Idles a Kendrick Lamar.
Beth yw eich atgof cynta’?
Patrwm y carped hyll oedd yn living room tŷ Mam a Dad – swirls glas a phorffor. Gaudy!
Beth yw eich ofn mwya’?
Y tywyllwch. Ond rydw i yn gwella…
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Rydw i wedi bod yn rhedeg lot yn ddiweddar…
Wnes i fagu pwysau yn locdawn, a dechrau rhedeg. Fi’n lico mynd a rhedeg am ryw bedair i saith milltir.
Beth sy’n eich gwylltio?
Sbwrgis – pobol sy’n taflu sbwriel. Sa i’n lico conflict, ond os ydw i’n gweld e dw i’n gweiddi!
Ac rydw i yn casau capitalist greed a gas and electric bills yn mynd fyny heb unrhyw resymeg.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Bysa fy ngwraig i yn dod, er mwyn i fi gael ei rannu fe gyda hi.
A bydden i yn gwadd Vic and Bob, Harry Belafonte, Dyl Mei, Phoebe Waller-Bridge, Paul Robeson, a Paul McCartney.
Bysen i yn cael pasta gyda tsili a chranc i ddechrau.
Mae gen i pizza oven, a fi wasdad yn meddwl eich bod chi yn gallu dweud lot am berson wrth weld beth maen nhw yn rhoi ar ben pizza. Felly fydda bob un gwestai yn gwneud pizza eu hunain, i fi gael gweld beth fydden nhw yn rhoi ar y pizza.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Butt.
Hoff wisg ffansi?
Fel arfer, dim lot!
Y tri tro diwethaf, rydw i wedi mynd fel rhyw fath o Gelt gyda sandals, belt a chilt.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Wnes i geisio dadlau am rygbi gyda rhywun ar twitter unwaith, a ges i fy mhrofi yn rong.
Felly ers hynny dw i yn ymchwilio cyn cychwyn dadle…
Parti gorau i chi fod ynddo?
Pan oeddwn i yn y coleg yn y Drindod roedd y bois wedi cynnal beach party ym mis Tachwedd, wedi llenwi’r tŷ gyda thywod a rhoi pysgod yn y bath, a vats mawr o punch.
Hoff ddiod feddwol?
Gwin coch, martinis a tecilas… rwy’n cael tecila am chwech pob dydd Gwener i cic-sdarto’r penwsos.
Hoff air?
Blodyn.
Gwyliau gorau?
Pan aeth fy ngwraig a fi i Baris pan oeddwn yn 30, a wnaethon ni fynd i ble bynnag roeddwn i eisiau mynd.
Felly espressos a gwin i frecwast, wedyn wyth awr yn y Louvre, a bwyta malwod a choesau llyffantod, a chrwydro’r strydoedd am oriau. Briliant!
Mae Cynefin ar S4C Clic