Fe heidiodd Llafurwyr o hyd a lled Cymru draw i Landudno’r penwythnos diwethaf ar gyfer Cynhadledd Llafur Cymru.

Uchafbwynt y gynhadledd wrth reswm oedd araith Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ac roedd yna ambell beth yn ei boeni wrth iddo annerch aelodau ei blaid.

Beth oedd y pynciau trafod felly? Yn naturiol, cafodd y rhyfel yn Wcráin ei grybwyll, gyda chostau byw a dyfodol yr Undeb hefyd yn hawlio sylw.