Ma’ ’na sawl agwedd ar fagu plant sydd wedi peri syndod i fi. Welwch chi, cyn ca’l plant ma’r sôn i gyd am napis (ffindes i hyn yn ddigon hawdd, no bother, o’n i ’di gweld pethe lot gwath yn coleg) a diffyg cwsg (dw i’n ofnadw ’da hyn – oes ’na air am y blinder ben bore ’na sydd bron yn boenus?). Ond ma’ ’na bethe eri’ll na soniodd neb wrtha’i amdanyn nhw, ac nad oeddwn i’n ddigon craff i’w rhagweld.