Yn sgil y rhyfel gwaedlyd yng ngwlad Wcráin, a’r erchyllterau a welwn yn ddyddiol ar y teledu, mi wyddom am yr angen mawr sy’n codi wrth i famau a’u plant a’r henoed ffoi o’u gwlad i chwilio am noddfa mewn gwledydd eraill. Rhyfeddwn at y caredigrwydd a ddaw o gyfeiriad gwledydd eraill. Rhyfeddwn at y caredigrwydd a ddaw o gyfeiriad gwledydd cymharol dlawd Dwyrain Ewrop a’u parodrwydd i ddarparu cymorth i’r niferus ffoaduriaid sy’n llifo ar draws eu cyfryw ffiniau.