Yn dilyn eich erthygl olygyddol (‘Targedu Tai Haf’ – Golwg 10/03/22) a gaf i godi pwynt pwysig sydd ddim wedi cael llawer o drafodaeth. Yn eich erthygl yr ydych yn dweud: “Mewn difrif calon, os oes gynnoch chi gannoedd o filoedd o bunnau i wario ar ail dŷ, beth ydy £16,936 o dreth y cyngor rhwng ffrindiau?” Wel, ar ei ben ei hun ac am un flwyddyn, mewn byd ariannol sefydlog, dw i’n cytuno, ond nid am un flwyddyn byddai hyn yn parhau ac mae pawb yn dechrau sylweddoli nad