Oes yna lôn salach yn Ewrop na’r A55?

Dyma’r ffordd ddeuol sy’n nadreddu ar hyd arfordir y gogledd, ond mae teithio arni yn gwneud i rywun deimlo mwy fel malwen na neidr sionc.

Gyrru yn ôl am y gorllewin, o gyfeiriad Bae Colwyn, ar ôl bod yn gwylio tîm rygbi Cymru dan 20 yn ceisio ymdopi gyda chriw o Ffrancwyr hynod dalentog.

Llawer iawn i’w edmygu yn y ddau dîm wrth i Ffrainc gipio buddugoliaeth 47-15 oddi cartref o flaen torf fywiog yn stadiwm ardderchog Parc Eirias.