Lee Strickland
Jason Strickland

Mae tri o bobol wedi’u dedfrydu i oes o garchar am lofruddio Dr Gary Jenkins ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd.

Cafodd y dyn 54 oed ei guro a’i gicio i farwolaeth yn dilyn ymosodiad homoffobig gan Jason Edwards (25), Lee Strickland (36) a Dionne Timms-Williams (17) ar Orffennaf 20 y llynedd.

Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor recordiad o’r ymosodiad, ac roedd modd clywed Dr Gary Jenkins yn ymbil arnyn nhw i roi llonydd iddo, ond parhau am 15 munud wnaeth yr ymosodiad serch hynny.

Cafodd ei adael ar lawr yn gwaedu, a’i drowsus wedi’u tynnu i lawr gan ei ddinoethi.

Bu farw yn yr ysbyty bythefnos yn ddiweddarach ar Awst 5, ac fe gafodd y tri eu harestio cyn pledio’n euog i gyhuddiadau o ddynladdiad, lladrata ac ymosod ar ddyn arall oedd wedi ceisio ymyrryd yn ystod yr ymosodiad.

Fe wnaeth y tri wadu llofruddio Dr Gary Jenkins, ond fe wnaeth rheithgor yn Llys y Goron Merthyr Tudful gael y tri yn euog fis diwethaf.

Jason Edwards
Jason Edwards

Bydd Jason Edwards a Lee Strickland yn treulio o leiaf 33 o flynyddoedd dan glo, a Dionne Timms-Williams o leiaf 18 mlynedd.

Ymateb yr heddlu

“Roedd Dr Gary Jenkins yn dad, gŵr, brawd a ffrind annwyl,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Yn broffesiynol, roedd ganddo yrfa feddygol lwyddiannus fel Seiciatrydd Ymgynghorol ac roedd yn uchel ei barch am y gofal arbenigol a’r gefnogaeth a roddodd i’w gleifion niferus.

“Roedd yr ymosodiad ar Dr Jenkins gan y tri diffynnydd yn giaidd ac yn eithriadol o ddi-synnwyr.

“Roedd graddau a hyd y trais diangen a gafodd ei orfodi arno, ynghyd â sarhad homoffobig – a’r cyfan wedi’i ddal ar recordiad sain, yn ffiaidd ac yn syfrdanol – wnaeth e ddim byd o gwbl i haeddu hyn.

Dionne Timms-Williams
Dionne Timms-Williams

“Fydd dim byd yn llenwi’r bwlch ym mywydau’r rheiny oedd yn caru Gary ac sydd wedi diodde’r torcalon o’i golli o dan yr amgylchiadau mwyaf torcalonnus.

“Rydym yn cydnabod y dedfrydau sylweddol a gafodd eu rhoi i’r tri diffynnydd heddiw, sy’n adlewyrchu natur homoffobig a llofruddio er elw yr ymosodiad ofnadwy ar Dr Jenkins.

“All yr un ddedfryd, waeth beth yw ei hyd, ddim cymryd lle’r boen y mae teulu Dr Jenkins yn ei theimlo.

“Gobeithio y bydd y dedfrydau heddiw yn dod ag elfen o gysur iddyn nhw ac yn eu galluogi nhw i ailadeiladu eu bywydau.

“Bydd ein meddyliau ni gyda nhw am byth.”