Dydy rhai gofalwyr ddim yn gallu fforddio teithio i’w gwaith yn sgil y cynnydd mewn prisiau petrol, yn ôl undeb UNSAIN.
Mae’r sefyllfa’n golygu bod pobol sy’n dibynnu ar ofalwyr yn cael eu rhoi mewn perygl, meddai’r undeb.
Yn ôl rhai gweithwyr sy’n dibynnu ar geir ar gyfer eu gwaith, mae hi’n costio iddyn nhw fynd i weithio, a dydy rhai ohonyn nhw ddim ond yn cael 20c y filltir.
Mae rhai gweithwyr yn ystyried chwilio am waith arall gan eu bod nhw’n gorfod gwario mwy ar fynd i’r gwaith nag y maen nhw’n cael eu talu.
Mae undeb UNSAIN yn galw am gynyddu cyfraddau pres petrol ar gyfer gweithwyr y sector gyhoeddus a gofalwyr yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r undeb wrthi’n trafod gyda Llywodraeth Cymru ac yn edrych ar sut i gefnogi gweithwyr iechyd sy’n wynebu cynnydd mewn costau petrol.
‘Argyfwng difrifol’
Dywed Mark Turner, arweinydd gofal gydag UNSAIN Cymru, ei fod e a’i gydweithwyr yn derbyn nifer sylweddol o negeseuon gan ofalwyr sy’n dibynnu ar eu ceir er mwyn gweithio, yn pryderu am yr argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn prisiau.
“Rydyn ni’n clywed bod gofalwyr yn methu fforddio talu’r cynnydd anferth ym mhrisiau’r petrol a’r disel y maen nhw ei angen i wneud eu gwaith, ac mae hynny’n ddealladwy,” meddai.
“Mae hwn yn argyfwng difrifol, ac mae’n cynrychioli perygl anferth i bobol agored i niwed sydd angen ac yn dibynnu ar eu gofalwyr i oroesi.
“Dyna pam bod UNSAIN yn ysgrifennu at bob darparwr gofal yng Nghymru er mwyn pledio arnyn nhw i gynyddu cyfraddau pres petrol i ganiatáu i’w staff nhw wneud eu gwaith.”
‘Methu gwneud gwaith hanfodol’
Ychwanega Lianne Dallimore, cadeirydd pwyllgor llywodraeth leol UNSAIN Cymru fod “yr argyfwng hwn yn effeithio miloedd o bobol ledled Cymru a thros y Deyrnas Unedig sydd nawr yn methu gwneud gwaith hanfodol oherwydd y cynnydd mewn costau petrol”.
“Rydyn ni’n galw ar 22 awdurdod lleol Cymru i weithredu heddiw a lleihau’r baich sydd ar staff gweithgar drwy gynyddu cyfraddau pres petrol yn uwch na’u lefelau pitw,” meddai.