Mae’r etholiadau lleol ym mis Mai yn “allweddol bwysig” i Blaid Cymru er mwyn “dyfu’r mudiad ymhob rhan o Gymru”, yn ôl Adam Price.

Bydd yr etholiadau yn cael eu cynnal ar Fai 5 a bydd Plaid Cymru, sydd â mwyafrif yng Ngwynedd, yn gobeithio adeiladu ar y cynnydd cymedrol wnaeth y blaid yn 2017.

Mae’n etholiad unigryw yng Nghymru oherwydd mai dyma’r tro cyntaf y bydd pobol 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio mewn etholiadau lleol – demograffeg y mae Adam Price yn awyddus i’w dargedu.

“Mae e’n allweddol bwysig o ran tyfu’r mudiad a chreu sylfaen ar gyfer y Blaid, ond hefyd ar gyfer y Gymru yr ydym ni am weld yn datblygu’n ehangach,” meddai wrth golwg360 yng nghynhadledd Plaid Cymru.

“O’r gwaelod i fyny mae’r mudiad yn cael ei adeiladu, felly os ydyn ni eisiau gweld cynnydd yn y gefnogaeth i’r Blaid, dyma yw’r sylfaen.

“Ond hefyd, wrth gwrs, mae’r gallu i lywodraethu ar lefel leol yn bwysig o ran dangos i bobol bod y Blaid yn blaid lywodraethol, er mai dim ond ar lefel leol [mae hynny].

“Felly mae’n allweddol bwysig ein bod ni’n apelio i fwy o bobol ifanc, ein bod ni’n rhoi mwy o fenywod ymlaen fel ymgeiswyr ac ati.

“Mae’n gyfle euraid i ni dyfu’r mudiad ar lefel genedlaethol ac mae’n ffantastig gweld y twf yn y gefnogaeth i annibyniaeth ac yn aelodaeth Yes Cymru er enghraifft.

“Tasen ni’n gallu sianelu’r egni yna mewn i etholiadau fel sydd wedi digwydd yn achos yr Alban ac yn achos Catalwnia, mi dyfodd y mudiad annibyniaeth modern yng Nghatalwnia o’r gwaelod i fyny, o gynghorau lleol yn pleidleisio o blaid ac yn y bôn, trefnu refferendwm ar annibyniaeth.

“Felly dychmygwch mwy o gynghorau yn dod allan o blaid annibyniaeth, ac nid yn unig hynny, trwy wneud gwaith yn y gymuned, crisialu yn ymarferol pam fod yr achos dros annibyniaeth mor bwysig.

“Dyw e ddim yn rhy hwyr i bobol sefyll, a dyw hi’n sicr ddim yn rhy hwyr i bobol ymuno yn y gweithgarwch o ran ymgyrchu.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr etholiad ac yn ei weld fel carreg llam tuag at dyfu’r mudiad ymhob rhan o Gymru.”

‘Prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd’

Defnyddiodd Adam Price ei araith yn y gynhadledd i ddatgelu y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd.

“Hanner ffordd drwy’r Senedd ddiwethaf, fe benderfynon ni wneud prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn brif flaenoriaeth i ni,” meddai.

“Dyma’r ffordd orau, o fewn grymoedd cyfredol y Senedd, y gallem ni wneud gwahaniaeth a dechrau dileu tlodi plant yng Nghymru, sy’n effeithio ar draean o’n plant.

“Mae cael gwared ar ddyled arian cinio a chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â chael cinio am ddim yn golygu bod plant yn cael pryd o fwyd poeth, iach yn ystod cam ffurfiannol yn eu datblygiad – all plant sydd eisiau bwyd ddim dysgu na chyflawni eu gwir botensial.

“Dim ond achos Plaid Cymru y bydd Prydau Ysgol Am Ddim yn digwydd – gyda’n gilydd, rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

“Rydym nawr yn bwriadu mynd â’r polisi ymhellach.

“Gallaf gyhoeddi heddiw mai rhan allweddol o’n harlwy yn yr ymgyrch etholiad cyngor sydd ar y gweill yw y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i osod y nod ac yn dechrau cynllunio ar unwaith i ymestyn Prydau Ysgol am Ddim i bob disgybl ysgol uwchradd o fewn y pum mlynedd nesaf.

“Trwy Brydau Ysgol am Ddim i bawb byddwn yn dechrau creu Cymru sy’n rhydd o dlodi.

“Trwy ein Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, byddwn yn creu Cymru sy’n rhydd o wewyr mewn henaint. Trwy reoli rhenti a hawl i dai, byddwn yn creu Cymru sy’n rhydd o ddigartrefedd.

“A thrwy ddysgu cynnar a gofal plant o ansawdd uchel, yn ddwyieithog, ac yn rhad ac am ddim, byddwn yn adeiladu Cymru lle gall pob plentyn gyrraedd eu llawn botensial.

“Dyma pam mae’r etholiadau lleol mor bwysig.

“Mae pob cynghorydd Plaid a etholwyd, pob cyngor Plaid a ffurfiwyd, yn adeiladu’r genedl o’r gwaelod i fyny.”