Mae Bangladesh yn dathlu 51 mlynedd o annibyniaeth heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 26), gyda nifer o ddigwyddiadau’r hanner canmlwyddiant yn cael eu cynnal flwyddyn yn hwyr o ganlyniad i’r pandemig.
Ar Fawrth 26 bob blwyddyn, mae’r gymuned Bengali yn dathlu’r diwrnod y gwnaeth Sheikh Mujibur Rahman, arweinydd cynta’r wlad, gyhoeddi ei hannibyniaeth cyn dechrau’r rhyfel.
Ar ôl gwahanu oddi wrth India yn 1947, daeth y tir sydd bellach yn cael ei hadnabod fel gwlad Bangladesh yn Ddwyrain Bengal – un o bum rhanbarth Pacistan.
Dechreuodd y rhyfel pan wnaeth byddin Pacistan yng ngorllewin y wlad ddilyn gorchymyn Yahya Khan ac ymosod ar y boblogaeth ar Fawrth 25, 1971 gan esgor ar gyfnod o hil-laddiad yn erbyn cenedlaetholwyr Bengali.
Cafodd canlyniadau etholiadau 1970 eu diddymu, gyda’r darpar brif weinidog Sheikh Mujibur Rahman yn cael ei arestio.
Daeth y rhyfel i ben ar Ragfyr 16, 1971, pan wnaeth lluoedd Gorllewin Pacistan yn Bangladesh ildio.
Mwslimiaid yw trwch y boblogaeth sy’n byw yn y wlad.
Enillodd Bangladesh ei hannibyniaeth yn 1971, a daeth Dhaka yn brifddinas y wlad.
Cyfieithu araith hanesyddol i’r Gymraeg
Adeg yr hanner canmlwyddiant y llynedd, fe wnaeth prosiect i ddathlu’r achlysur yn Abertawe arwain at gyfieithu araith enwog sylfaenydd y wlad i’r Gymraeg gan Menna Elfyn.
Cafodd yr araith ei thraddodi gan Bangabandhu ar Fawrth 7, 1971.
Daeth y gwahoddiad i gyfieithu’r gwaith i’r Gymraeg, Sgots yr Alban a’r Wyddeleg gan Uwch Gomisiynydd Bangladesh yn y Deyrnas Unedig i’w gyhoeddi yn y cyhoeddiad arbennig A call for freedom in languages a chafodd digwyddiad arbennig ei gynnal i ddathlu cysylltiadau diwylliannol.
Daeth y syniad ar gyfer y prosiect gan Dominic Williams, darlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant a sylfaenydd y cwmni celfyddydol write4word, a Mabs Noor, cyfarwyddwr digwyddiadau Pafiliwn y Patti yn Abertawe.
Roedd y gwaith o gyfieithu’r araith yn seiliedig ar ddau ddarn o destun – araith Bangabandhu yn 1971 a ‘Myfi yw Sheikh Mujib’, monolog cyfoes gan Anisur Rahman.