Bydd drama newydd sydd wedi’i hysbrydoli gan ‘The Legend of Sleepy Hollow’ gan Washington Irving yn cael ei darlledu ar Radio Cymru ar noson Calan Gaeaf.

Am 9 o’r gloch ar Hydref 31, bydd BBC Radio Cymru yn darlledu’r sioe gerdd newydd ‘Ysbrydnos’, gyda chast o berfformwyr theatr blaenllaw’r wlad – yr ennillydd gwobr ‘Olivier’, Rebecca Trehearn; un o sêr y West End, Luke McCall; ac wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, Aled Pedrick.

Wedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan y cyfansoddwr gwobrwyol Adam Wachter a’r cynhyrchydd/awdur Gareth Owen, mae ‘Ysbrydnos’ yn ddrama gerdd fodern, ddoniol ac angerddol sy’n archwilio themâu cyfoes gan gynnwys rhywioldeb, cariad, a dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.

Mae’r cynhyrchiad wedi’i addasu o sioe gerdd wreiddiol gan Adam Wachter (‘Tarrytown’), ac mae wedi ei leoli mewn pentref bach cysglyd yng ngogledd Cymru adeg Calan Gaeaf.

Wedi ei fframio gan hên ofergoelion a chwedlau arswydus Cymraeg, mae’r ddrama’n dilyn cymeriad Ichabod Crane (Aled Pedrick) – athro ifanc, hoyw o Lundain – sy’n symud i gefn gwlad Cymru er mwyn dianc rhag ei orffennol gwyllt yn y ddinas fawr.

Wedi cyrraedd, mae’r dieithryn yn cwrdd â chwpl lleol: cynorthwyydd bywiog yr ysgol, Catrin (Rebecca Trehearn), â’i gwr tanbaid Bryn (Luke McCall).

Wrth i fywydau’r tri blethu, daw cyfrinachau ac amheuon dwys i’r amlwg, a chaiff Ichabod ei rwygo rhwng ei ffyddlondeb tuag at ei ffrind gorau newydd, a’r teimladau rhamantaidd mae’n eu datblygu tuag at ei gŵr.

‘Stori gyfoes, ddoniol i dorri’ch calon’

“Fe wnaeth nifer o bethau fy atynu at y prosiect yma,” meddai Rebecca Treharn.

“Y siawns i recordio sioe gerdd newydd yn y Gymraeg yn bennaf, ond y sgript a’r gerddoriaeth hefyd; mae o mor gryf, ac mae hi mor gyffrous cael gweithio ar rywbeth newydd fel hyn.

“Mae’r stori’n gyfoes ac yn ddoniol, ac mi wnaiff hi dorri’ch calon chi hefyd.”

“Mae hi mor gyffrous fod Radio Cymru’n buddsoddi mewn sioe gerdd newydd ac unigryw fel hon yn y Gymraeg, a rydan ni’n edrych ymlaen i wrandawyr gael eu sugno mewn i fyd bregus Catrin, Bryn ac Ichabod dan gysgod Nos Galan Gaeaf,” meddai Gareth Owen.

  • Bydd Ysbrydnos i’w chlywed ar BBC Radio Cymru am 9pm ar Nos Lun, Hydref 31 ac yna ar BBC Sounds trwy gydol fis Tachwedd. Y trefnydd ar gyfer y gerddorfa yw’r Cyfarwyddwr Cerdd Brian Usifer (‘Frozen’, ‘Kinky Boots’ ar Broadway) a chafodd y sioe ei recordio a’i chymysgu gan Auburn Jam Music Ltd (‘Millennials’, ‘Rumi: The Musical’). Cafodd y rhaglen ei chynhyrchu gan Lawr y Grisiau Ltd ar gyfer BBC Radio Cymru.