Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdodau Lleol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran sut i fod yn ddiogel ar gyfer y gweithgareddau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt sydd i ddod.

Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi datblygu cyfres lawn o wybodaeth ar eu gwefan, gan ddarparu rhagor o wybodaeth am gadw’n ddiogel yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, ynghyd â deunydd hwyliog i blant ac oedolion ifanc.

“Rydym am i’n cymuned gael amser da a diogel dros Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt,” meddai Peter Greenslade, Pennaeth Corfforaethol Risg Gymunedol.

“Ystyriwch y risgiau posibl i ddiogelwch sy’n gysylltiedig â Chalan Gaeaf, coelcerthi a thân gwyllt.

“Mae yna risg uwch o niwed difrifol i bobol ac eiddo yn ystod y misoedd hyn, ac rydym am sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i dynnu sylw at y peryglon y gallech eu hwynebu, a’r modd y gallwch leihau’r risgiau hynny trwy gymryd rhai camau syml.”

Risgiau tân Calan Gaeaf

Mae Calan Gaeaf yn amser arbennig i blant a phobol ifanc, a chan fod cyfyngiadau’r llynedd bellach yn lleddfu, bydd yn gyfle i wisgo gwisg ffansi a cherfio pwmpenni, ond mae’r dathliad hwn yn cyflwyno risgiau tân.

“Mae’r risgiau sy’n gysylltiedig â thân yn uwch yn ystod cyfnod Calan Gaeaf,” meddai Richie Felton, Pennaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Mae rhoi fflamau noeth mewn pwmpenni, ynghyd â defnyddio gwisgoedd a allai fod yn rhai nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, yn gallu arwain at drychineb.

“Sicrhewch fod y marc ‘CE’ ar unrhyw wisgoedd Calan Gaeaf a ddefnyddir, ystyriwch ddefnyddio canhwyllau LED eleni, a chadwch bob llwybr dianc yn rhydd o addurniadau Calan Gaeaf.

“Gall camau syml wella’r siawns o gael Calan Gaeaf diogel a hapus yn sylweddol.”

A ydych wedi ystyried y peryglon sy’n gysylltiedig â thân a gwisgoedd Calan Gaeaf?

Mae’n hanfodol bwysig bod y marc CE ar label unrhyw wisgoedd Calan Gaeaf.

Er hynny, fel pob dilledyn, gall gwisgoedd fynd ar dân yn hawdd.

Cadwch lygad ar blant bob amser.

A yw eich canhwyllau yn eich rhoi mewn perygl?

Ystyriwch ddewisiadau eraill yn lle canhwyllau, er enghraifft canhwyllau LED, a fydd yn darparu’r effaith fwganllyd ofynnol ond gan hefyd ddarparu manteision ychwanegol, megis peidio â chael eu chwythu allan yn y gwynt.

A allwch ddianc os bydd yna dân?

Cadwch yr allanfeydd yn glir ac yn ddirwystr, sy’n fater penodol yn ystod Calan Gaeaf pan fydd eitemau’n cael eu gosod o amgylch y tŷ ac yn agos at allanfeydd at ddibenion addurno.

Cadwch yn Ddiogel y Noson Tân Gwyllt hon a chofiwch Barchu, Diogelu a Mwynhau

Coelcerthi

Yn draddodiadol, mae noson Tân Gwyllt yn cael effaith drom ar Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a’i asiantaethau partner.

O ganlyniad, mae’r Gwasanaeth yn cynghori pawb i barchu eu cymunedau, diogelu eu hunain ac eraill rhag niwed, yr amgylchedd a’r gwasanaethau brys, a mwynhau digwyddiadau trwy ddilyn rhagofalon diogelwch sylfaenol.

Bob blwyddyn, mae’r gwasanaeth tân yn gweld coelcerthi peryglus yn cael eu codi.

Gall y coelcerthi hyn gynnwys eitemau sy’n wenwynig, ac eitemau eraill sy’n beryglus i’r sawl sy’n gwylio, p’un a yw hynny’n golygu risg o ffrwydrad, neu rywbeth arall.

Nid yn unig mae’r coelcerthi hyn yn peryglu’r cyhoedd, ond gall coelcerthi sydd wedi’u hadeiladu’n wael effeithio’n wael iawn ar yr amgylchedd, a bydd aelodau’r timau atal tanau bwriadol a diogelwch cymunedol yn cyd-weithio â’r heddlu a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod cymunedau’n cael eu cadw’n ddiogel.

Mae gan Richard Vaughan Williams, Rheolwr Atal Tanau Bwriadol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, brofiad helaeth o weithio gydag asiantaethau partner ar noson tân gwyllt, ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o’r peryglon posib.

“Rydym am i’r cyhoedd fwynhau’r adeg hon o’r flwyddyn oherwydd, os caiff pethau eu gwneud mewn modd diogel, gall fod yn llawer o hwyl i deuluoedd,” meddai.

“Byddem bob amser yn argymell mynd i arddangosfa tân gwyllt a drefnir yn swyddogol gan ei bod yn llawer mwy diogel.

“Mae yna beryglon difrifol yn gysylltiedig â choelcerthi, yn enwedig rhai nad ydynt wedi’u trefnu’n broffesiynol.

“Dylai coelcerthi fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon, felly rydym wedi darparu gwybodaeth a fydd yn eich cynorthwyo i sicrhau eich bod chi, eich teulu, a’n cymunedau yn cael eu cadw’n ddiogel.”

Yn draddodiadol, bydd problemau’n codi hefyd wrth ddefnyddio tân gwyllt, yn enwedig pan fyddan nhw’n mynd i’r dwylo anghywir.

Mae yna bethau syml i’w gwneud hefyd i sicrhau nad yw’r rheiny sy’n gwylio yn cael eu hanafu ac nad yw’r amgylchedd o’ch cwmpas yn cael ei niweidio yn ystod noson tân gwyllt.

Mae tân gwyllt yn cael eu graddio mewn categorïau, a bydd ganddyn nhw bellteroedd diogelwch gwahanol yn ogystal â chyfarwyddiadau penodol y dylid cadw atyn nhw er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cadw’n ddiogel.

Er enghraifft, mae angen pellter diogelwch o 25 metr o leiaf ar lawer o rocedi, sef maint cyfartalog pwll nofio mewn canolfan hamdden.

Gofalwch eich bod yn eu prynu gan adwerthwr dibynadwy bob amser, a dilynwch gyfarwyddiadau tân gwyllt unigol.

Pryder arbennig yw pan fydd tân gwyllt gradd ’diwydiannol’, nad oes modd eu gwerthu i’r cyhoedd, yn mynd i’r dwylo anghywir, a all achosi sefyllfa beryglus iawn.

Ychwanegodd Rhingyll yr Heddlu, Terri Harrison o’r Tîm Atal Tanau Bwriadol,

“Bydd yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau y gallwn, gyda’n gilydd, gadw ein cymunedau’n ddiogel eleni,” meddai Terri Harrison, Rhingyll Tîm Atal Tanau Bwriadol yr heddlu.

“Mae camddefnyddio tân gwyllt yn peri pryder arbennig, yn ogystal â defnyddwyr amatur sy’n cael gafael ar dân gwyllt o safon broffesiynol ac yn eu defnyddio.

“Mae hyn yn creu risg enfawr i’n cymunedau, ac mae hefyd yn anghyfreithlon.

“Os penderfynwch ddefnyddio tân gwyllt, cadwch at y cod tân gwyllt a restrir ar ein gwefan, a gofalwch eich bod yn eu prynu gan adwerthwr dibynadwy – byddwch yn ddiogel, byddwch yn gyfreithlon.”