Bydd gwersi Cernyweg newydd yn dechrau yn Sir Benfro yn y flwyddyn newydd.

Dewi Rhys-Jones fydd y tiwtor, ac mae’n annog ei gyd-Gymry i ddysgu’r iaith yn sgil ei hagosatrwydd i’r Gymraeg.

Mae’r tiwtor o Abergwaun, fu’n dysgu Cymraeg i Oedolion am ddeugain mlynedd, yn pwysleisio’r mwynhad gaiff siaradwyr Cymraeg yn arbennig wrth ddysgu Cernyweg, gan fod cysylltiad agos rhwng yr ieithoedd, diwylliannau a’r hanes.

Y gobaith yw y bydd y gwersi wythnosol i ddechreuwyr yn dechrau ar Ionawr 12, ac yn cael eu cynnal ym Mrithdir Mawr, Trefdraeth.

Bydd y pwyslais ar siarad Cernyweg, ond bydd rhywfaint o waith ar ei hysgrifennu a’i darllen hefyd.

“Dw i’n dysgu Cernyweg nawr ers tipyn bach mwy na blwyddyn,” meddai Dewi Rhys-Jones, fu’n dysgu Gwyddeleg i Oedolion am bymtheg mlynedd hefyd, wrth golwg360.

“Mae sgiliau athro iaith gyda fi, ac ar ôl blwyddyn mae digon o Gernyweg gen i i ddechrau dosbarth Cernyweg ar gyfer dechreuwyr pur.

“Dw i’n meddwl bod teimlad gyda llawer o Gymru bod pobol Cernyw yn agos iawn atom ni, ac mae yna ryw deimlad bod yr iaith Gernyweg yn bwysig fel mae’r Gymraeg yn bwysig.

“Maen nhw yn yr un hanner o’r ieithoedd Celtaidd, ac os ydych chi’n mynd i Gernyw ac yn gweld rhai o’r enwau llefydd, rydych chi bron yng Nghymru.

“Y diddordeb fel Cymro, dyna’r peth, y teimlad bod pobol Cernyw yn agos iawn atom ni.”

Mae’r sylw mae Gwenno wedi’i rhoi i’r Gernyweg wedi codi ymwybyddiaeth o’r iaith yn ddiweddar, meddai Dewi Rhys-Jones.

Dysgu Gwyddeleg

Roedd Dewi Rhys-Jones, sydd wedi ysgrifennu sawl llyfr i helpu pobol i ddysgu Cymraeg a Gwyddeleg, yn awyddus i ddysgu iaith Geltaidd arall flynyddoedd yn ôl.

“Meddyliais y byswn i’n gallu dysgu Cernyweg neu Lydaweg, ond fe wnes i feddwl beth am ddysgu iaith yn hanner arall yr ieithoedd Celtaidd – mae hynny’n golygu Gwyddeleg, Galeg yr Alban neu Manaweg,” meddai.

“Gan fy mod i’n byw yn Abergwaun, mae mor rhwydd mynd i Iwerddon felly mae’n rhaid i fi ddysgu Gwyddeleg.

“Mae sianeli gyda nhw, nofelau di-ri, ac mae barddoniaeth, cerddoriaeth Gwyddeleg – llawer mwy na sydd ar gael gyda Galeg yr Alban a Manaweg.

“Es i ati i ddysgu’r Wyddeleg, er mwyn gweld pa mor debyg yw’r Wyddeleg ac a ydy’r strwythur yr un peth, ydy hi’n amlwg bod yr iaith yn agos iawn [i’r Gymraeg].”

‘Agosatrwydd’

Ar ôl dysgu’r Wyddeleg “yn eithaf rhugl”, y peth naturiol oedd dysgu iaith Geltaidd sy’n perthyn i’r un gangen â’r Gymraeg, meddai.

“Dw i’n gwneud Cernyweg ail lefel eleni, gan taw fi yw’r unig Gymro yno mae’n amlwg ei bod hi’n llawer, llawer, llawer rhwyddach i fi ddysgu’r Gernyweg nag yw hi i’r bobol Saesneg eu hiaith.

“Pleser yw hi. Does dim gwaith ynddo i fi, yn fy meddwl i. Hamddenol yw dysgu Cernyweg i fi fel myfyriwr, a’r un peth fel athro, gobeithio, fel ôl y Nadolig,” meddai gan bwysleisio’r mwynhad gaiff pobol o’i dysgu.

“I fi, mae rhywbeth mor arbennig am y Gernyweg gan ei bod hi mor agos at y Gymraeg.

“Mae agosatrwydd yno o ran diwylliant, hanes ac iaith.”

Yn ddibynnol ar bwy sy’n mynychu’r gwersi, byddan nhw’n cael eu cynnal drwy’r Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.

  • Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru e-bostiwch brithdirmawrhc@gmail.com