Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Arfon, yn dweud bod “yr Amazon a’n planed gyfan yn anadlu ochenaid enfawr o ryddhad” ar ôl i Luiz Inacio Lula da Silva gael ei ethol yn Arlywydd newydd Brasil.

Fe wnaeth yr arlywydd newydd drechu Jair Bolsonaro, sy’n gwrthod derbyn y canlyniad, ac mae disgwyl iddo herio’r canlyniad.

Mae’r Goruchaf Lys Etholiadol wedi cadarnhau’r canlyniad, wrth i’r arlywydd newydd ennill 50.9% o’r pleidleisiau, o gymharu â 49.1% i Bolsonaro.

Mae disgwyl i’r arlywydd newydd, sy’n 77 oed, gael ei dderbyn i’r swydd yn ffurfiol ar Ionawr 1.

Bolsonaro yw’r arlywydd cyntaf i golli etholiad tra ei fod e yn y swydd.

Yn debyg i Donald Trump, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae Jair Bolsonaro wedi gwneud honiadau bod llygredd yn tarfu ar etholiadau yn y wlad, ac nad yw’r canlyniad diweddaraf yn ddilys.

‘Buddugoliaeth’

“Llongyfarchiadau / Parabéns @LulaOficial,” meddai Hywel Williams, wrth longyfarch yr arlywydd newydd ar Twitter.

“Mae hon yn fuddugoliaeth i gymunedau brodorol a du Brasil sydd wedi dioddef cymaint o boen o dan Bolsonaro.

“Mae’r Amazon a’n planed gyfan yn anadlu ochenaid enfawr o ryddhad heno.”