Mae Clwb y Bont yng nghanol tref Pontypridd yn ailagor ei ddrysau’n llawn fis nesaf, am y tro cyntaf ers llifogydd mis Chwefror 2020.

Bydd yn ailagor ar Dachwedd 11 ar ôl i adnewyddiadau gael eu gorffen.

Fe wnaeth y cyfnodau clo yng nghanol y pandemig Covid-19 achosi rhagor o drafferthion, ond diolch i grantiau diwylliannol a llywodraethol, yn ogystal â chyfraniadau gan aelodau a gwirfoddolwyr, mae’r clwb bellach yn barod i groesawu’r cyhoedd, mudiadau a grwpiau lleol yn ôl i’r adeilad.

Mae tai bach a seler gwrw newydd wedi eu gosod ar y llawr isaf, a grisiau i’r llofft lle mae ystafell gyfarfod unigryw wedi ei chreu.

Yn ogystal, mae nenfwd newydd sydd wedi cael ei atgyfnerthu wedi cael ei godi yn y Stafell Gefn lle caiff digwyddiadau eu cynnal.

Bydd Clwb y Bont unwaith eto yn cynnig ei hun fel lleoliad cynhwysfawr, croesawgar fydd yn adlewyrchu amrywioldeb ac egni’r gymuned leol.

Bydd y clwb bellach yn gweithredu fel ‘tŷ rhydd’ fydd yn gwerthu cwrw o fragdai lleol a Chymreig megis Twt Lol, Greytrees, Lager Wrecsam, Tiny Rebel a Gwynt y Ddraig, ac fe fydd yn lleoliad unigryw gydag awyrgylch amgen ar gyfer tref Pontypridd a’r cymoedd cyfagos.

Mae rhaglen lawn o weithgareddau wedi ei threfnu ar ôl yr ail-agor mawr gyda rhywbeth at ddant pawb, o roc i jazz i werin i farddoniaeth a gweithdai creadigol.

Dywed y clwb y bydd “croeso cynnes i bawb alw mewn i fwynhau diod a sgwrs mewn awyrgylch gynnes, gyfforddus, Gymreig”.

Darllenwch ragor am hanes y llifogydd a’u heffaith ar Glwb y Bont yma:

Clwb y Bont, Pontypridd

Gig y Ffatri Bop yn codi mwy nag £11,000 at Glwb y Bont

Cafodd y clwb Cymraeg ym Mhontypridd ei ddifrodi’n sylweddol gan lifogydd Storm Dennis

Elin Fflur yn falch o gael canu yn gig codi arian Clwb y Bont

Clwb Cymraeg Pontypridd wedi ei ddinistrio gan lifogydd
Clwb y Bont, Pontypridd

Cynnal gig mawr yng Nghlwb y Bont yn dilyn y llifogydd

Dechrau cyhoeddi pwy fydd yn perfformio yn rhad ac am ddim
Clwb y Bont, Pontypridd

Storm Dennis: clwb Cymraeg Pontypridd dan ddŵr

Clwb y Bont “wedi dioddef yn enbyd”