Mae Clwb y Bont, clwb Cymraeg Pontypridd, wedi’i gau yn sgil llifogydd sydd wedi cael eu hachosi gan Storm Dennis.

Yn ôl gwefan y clwb, sy’n ganolbwynt i fywyd Cymraeg y dref, fe fydd ynghau “am y dyfodol gweladwy”.

Daw’r newyddion wrth i’r dref a nifer o ardaloedd cyfagos ddioddef yn ddifrifol.

“Newyddion drwg – mae Clwb y Bont dan y dwr ac ar gau,” meddai neges ar wefannau cymdeithasol y clwb.

“Rhaid aros i’r lefelau dwr ostwng cyn y gallwn asesu’r difrod – mwy o wybodaeth i ddilyn.”

Mewn neges arall, dywed y clwb: “Mae Clwb y Bont wedi dioddef yn enbyd o’r llifogydd ddaeth yn sgil Storom Dennis ar ddydd Sadwrn 15fed o Chwefror. Mae’r Clwb o dan y dwr a bydd ar gau am y dyfodol gweladwy.

“Ni ellir asesu’r difrod tan i lefelau’r dwr ostwng ac ni ellir ar hyn o bryd ddarogan pryd y bydd y Clwb yn ail agor. Mae Clwb y Bont yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.”

Hanes y clwb

Cafodd Clwb y Bont ei agor gan Dafydd Iwan fis Medi 1983.

Mae’n disgrifio’i hun fel “canolbwynt ar gyfer digwyddiadau diwylliannol amrywiol, yn ogystal â lle cyfeillgar a hamddenol i gymdeithasu”.

Mae gwefannau cymdeithasol y clwb yn disgrifio “wythnos brysur” oedd am fod yr wythnos hon, gyda phum digwyddiad ar y gweill.

“5 band, sesiynau celf, ymarferion, cwis, noson gymdeithasol LHDT, côr, rygbi, cwrw casgen,” meddai’r neges ar Facebook.