Mae rhybudd i drigolion sir Merthyr Tudful yn sgil llifogydd sydd wedi’u hachosi gan Storm Dennis na ddylen nhw fynd allan oni bai bod rhaid.

Mae un o swyddogion tân y de yn dweud ar wefan gymdeithasol Twitter fod Gwasanaeth Tân ac Achub y De wedi derbyn bron i 1,000 o alwadau brys ers canol nos (Chwefror 16).

Mae rhannau helaeth o gymoedd y de dan ddŵr, gyda nifer o rybuddion coch wedi’u cyhoeddi yn rhybuddio fod bywydau mewn perygl.

Yn ôl y prif swyddog Huw Jakeway, mae cannoedd yn rhagor o alwadau brys llai difrifol yn aros am ymateb.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gwadu ar Twitter fod cyflenwadau dŵr wedi cael eu diffodd, yn groes i’r sïon lleol.

Ond maen nhw’n dweud bod ardaloedd sydd agosaf i afonydd yn cael eu blaenoriaethu wrth ddosbarthu sachau tywod.

Mae pobol yn cael eu symud o’u cartrefi yn ardaloedd Troed-y-rhiw, ac yn cael eu cynghori i fynd naill ai i Ganolfan Gymunedol Aberfan neu i Ganolfan Hamdden Merthyr Tudful.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn rhybuddio pobol na ddylen nhw fentro allan i ymweld ag anwyliaid mewn ysbytai, ond maen nhw’n dweud bod ganddyn nhw ddigon o gerbydau i gludo staff pe bai rhaid.

Mae Dŵr Cymru wedi trydar fideo o’r hyn sy’n digwydd yn ardal Pontsticill.