Yn y bleidlais yn San Steffan heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 29), roedd 23 o aelodau seneddol Cymru o blaid y Bil ar roi cymorth i farw.
Mae aelodau seneddol y Deyrnas Unedig wedi dewis cefnogi’r mesur dadleuol ar ddad-droseddoli marw â chymorth yn ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin.
Fe lwyddodd y Mesur Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) i ennyn cefnogaeth 330 o aelodau seneddol, gyda 275 yn ei wrthwynebu.
Fe dderbyniodd y mesur gymeradwyaeth fwy ysgubol fyth gan aelodau seneddol Cymru, gyda 23 yn pleidleisio o’i blaid a dim ond chwech ei erbyn.
Doedd tri aelod seneddol Cymreig heb bleidleisio.
Dyma sut bleidleisiodd aelodau seneddol Cymru…
O blaid (23)
Tonia Antoniazzi, Gŵyr, Llafur
Alex Barros-Curtis, Gorllewin Caerdydd, Llafur
Torsten Bell, Gorllewin Abertawe, Llafur
David Chadwick, Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, Democratiaid Rhyddfrydol
Alex Davies-Jones, Pontypridd, Llafur
Chris Elmore, Pen-y-bont ar Ogwr, Llafur
Catherine Fookes, Sir Fynwy, Llafur
Gill German, Gogledd Clwyd, Llafur
Becky Gittins, Dwyrain Clwyd, Llafur
Claire Hughes, Bangor Aberconwy, Llafur
Gerald Jones, Merthyr Tudful ac Aberdâr, Llafur
Stephen Kinnock, Aberafan Maesteg, Llafur
Ben Lake, Ceredigion Preseli, Plaid Cymru
Anna McMorrin, Gogledd Caerdydd, Llafur
Llinos Medi, Ynys Môn, Plaid Cymru
Jessica Morden, Dwyrain Casnewydd, Llafur
Kanishka Narayan, Bro Morgannwg, Llafur
Andrew Ranger, Wrecsam, Llafur
Liz Saville-Roberts, Dwyfor Meirionnydd, Plaid Cymru
Jo Stevens, Dwyrain Caerdydd, Llafur
Mark Tami, Alun a Glannau Dyfrdwy, Llafur
Henry Tufnell, Canol a De Sir Benfro, Llafur
Steve Witherden, Maldwyn a Glyndŵr, Llafur
Yn erbyn (6)
Ann Davies, Caerfyrddin, Plaid Cymru
Stephen Doughty, De Caerdydd a Phenarth, Llafur
Chris Evans, Caerffili, Llafur
Nia Griffith, Llanelli, Llafur
Ruth Jones, Gorllewin Casnewydd ac Islwyn, Llafur
Nick Thomas-Symonds, Torfaen, Llafur
Heb bleidleisio (3)
Chris Bryant, Rhondda ac Ogwr, Llafur
Carolyn Harris, Castell Nedd a Dwyrain Abertawe, Llafur
Nick Smith, Blaenau Gwent a Rhymni, Llafur