Roedd Marchnadoedd Cigyddion Wrecsam wedi ailagor i’r cyhoedd mewn digwyddiad ddoe (dydd Iau, Tachwedd 29), gan ddangos bod “mwy i’r dre’ na dim ond pêl-droed”, yn ôl cynghorydd.
Mae gwaith adnewyddu wedi bod ar y gweill yn y farchnad hanesyddol, sydd wedi sefyll ers 1848, gyda £4m wedi’i roi gan y Loteri Treftadaeth dros gyfnod o ryw bymtheg mis.
‘Clod i’r gweithwyr’
Yn ôl Marc Jones, Cynghorydd dros Blaid Cymru ar Gyngor Wrecsam, roedd y gwaith yn angenrheidiol gan fod y marchnadoedd yn “dywyll, budr, a blêr” cyn i’r gwaith gael ei gwblhau.
“Mae’r adeilad ei hun wedi cael ei wneud i fyny yn ffantastig,” meddai wrth golwg360.
“Felly mae o’n glod i’r gweithwyr sydd wedi’i wneud o.”
Dywed Jacqui Gough, cyfarwyddwr Grŵp SWG, oedd yn gyfrifol am yr adeiladu, eu bod nhw’n “ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am roi eu hymddiriedaeth ynom i adnewyddu dau adeilad sydd mor bwysig i’r ddinas a’r gymuned”.
“Mae wedi bod yn brosiect arwyddocaol, yn cynnwys popeth o osod systemau trydanol newydd i atgyweirio gwaith carreg hanesyddol, ac mae’r ddau adeilad bellach yn ôl i fod yn rhywbeth y gall Wrecsam gyfan fod yn falch ohono,” meddai.
Y cam nesaf yng ngwaith y Marchnadoedd a’r Cyngor ydy llenwi’r stondinau sy’n wag.
“Yr her ydi rŵan bod yr adeilad yna, a bod yr adnoddau i gyd yna, mae o’n fater o lenwi’r bylchau rŵan,” meddai Jacqui Gough.
Dywed Marc Jones ei bod yn bwysig dod o hyd i gigyddion, fel bod traddodiad y farchnad o fod yn Farchnad Cigyddion yn parhau.
“Ymateb positif iawn”
Yn ôl Marc Jones, mae’r bobol sy’n rhedeg stondinau yno “yn falch iawn” bod y farchnad wedi ailagor ar ôl “cyfnod eithaf anodd” tra roedd ar gau.
Y cynllun bellach yw parhau i adnewyddu ardal y farchnad, sydd hefyd yn gweld y lôn yn troi’n ardal i gerddwyr yn unig.
Dywed Marc Jones mai’r syniad tu ôl i hyn yw “dangos i bobol fod yna fwy i’r dre’ na dim ond pêl-droed”.
Yr wythnos hon, mae’r stryd fawr yn cynnal marchnad Nadolig Fictorianaidd, sy’n cael ei disgrifio fel “ffordd wych o fwynhau ysbryd yr ŵyl, yn ogystal â chefnogi busnesau lleol”.