Ar ôl bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru drwy ymuno â’u Cynllun Gweithredu Tlodi Mislif, mae adleoli safle cyflawni a gweithredu’r busnes Grace & Green i Gasnewydd yn gyfle gwych iddyn nhw barhau i gefnogi ymrwymiad y llywodraeth, yn ôl aelod o staff.
Mae’r newid hefyd yn gyfle iddyn nhw barhau i gydweithio’n agos â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, ac i hybu swyddi newydd yng Nghasnewydd.
Mae’r cwmni’n darparu cynhyrchion mislif organig, yn ogystal â gwybodaeth addysgiadol am fislif a glaslencyndod.
Fe fu’r cwmni’n llwyddiannus iawn yng Ngwobrau Go Cymru yn ddiweddar, gan gipio’r wobr yn y categori Gwerth Cymdeithasol.
‘Bwlch cynnyrch ac addysg’
Pan ymunodd Meg Gibson, Prif Swyddog Masnachol Grace & Green, â’r cwmni ddwy flynedd yn ôl, roedden nhw’n gweld yr angen i ddarparu adnoddau allweddol er mwyn arbed unigolion rhag wynebu tlodi mislif, meddai.
Dyma fan cychwyn ar waith y busnes gydag awdurdodau lleol Cymru mewn ardaloedd megis Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Sir Benfro, Caerffili a Sir y Fflint.
“Mi welon ni fwlch, nid yn unig mewn mynediad i gynnyrch mislif ond hefyd mewn addysg i bobl o amgylch iechyd mislif, glaslencyndod a’r menopos hefyd,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n creu llwyth o gynnwys addysgol am ddim yn y Gymraeg ac yn Saesneg i’n hawdurdodau ac i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn helpu i chwalu’r rhwystrau i gael gwybodaeth a chynhyrchion mae rhai yn eu hwynebu.”
Cynyddu gyrfaoedd gwyrdd
Fel rhan o’u cydweithio gyda Banc Datblygu Cymru, roedd cwmni Grace & Green yn edrych ar sut i sicrhau swyddi yng Nghymru, ac roedden nhw wedi gweld cyfle da i leoli eu busnes yng Nghasnewydd.
“Rydym yn gobeithio creu tua phymtheg swydd newydd dros y tair i bum mlynedd nesaf ar draws y sector gweithrediadau a logisteg, cynaliadwyedd, effaith gymdeithasol a gwerthiant,” meddai Meg Gibson.
“Roedd [adleoli] hefyd yn rhoi’r mynediad i ni at bobol newydd sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd gwyrdd, a’r cyfleoedd i weithio gyda cholegau lleol am gynlluniau prentisiaeth.
“Gyda mynediad i talent pool newydd, cefnogaeth gan y Banc Datblygu, a hefyd cefnogaeth Llywodraeth Cymru gyda’u Cynllun Gweithredu Tlodi Mislif a’u targed tuag at sero net, roedd yn teimlo fel no brainer o ran adleoli.”
Taclo’r tabŵ
Ers ryw ddwy flynedd bellach, mae Grace & Green yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yn eu hymrwymiad drwy eu Cynllun Gweithredu i ddiweddu tlodi mislif.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, “mae dileu tlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, absonoldeb o’r gwaith neu dynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol”.
Gobaith Llywodraeth Cymru yw cyrraedd 2027 gyda’r mislif yn bwnc sy’n cael ei ddeall a’i ‘normaleiddio’, a bod ‘mynediad teg’ i gynnyrch allweddol ar draws Cymru.
“Mae yna gyllid ar gael i awdurdodau lleol allu datblygu strategaethau mislif eu hunain a’u cyflwyno nhw,” meddai Meg Gibson.
“Mae’r Llywodraeth yn rhoi arweiniad ynghylch yr hyn sydd ei angen i gyflawni hynny, gan gynnwys gwella mynediad at gynnyrch mislif, oherwydd mae o gwmpas 24% o bobol sy’n cael eu mislif yn y Deyrnas Unedig yn cael trafferth i fforddio’r cynnyrch hynny.
“Mae nod dau ynglŷn â normaleiddio’r mislif wrth fynd i’r afael â’r stigma a’r cywilydd o’i amgylch; dyna pam rydyn ni’n creu cymaint o gynnwys addysgol, er mwyn helpu pobol i ddechrau’r sgyrsiau hyn.
“Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr bod mynediad at wybodaeth am amodau iechyd eraill sy’n gysylltiedig â’r mislif, megis y menopos ac endometriosis.
“Mae yna bwyslais mawr yng nghynllun y Llywodraeth ar ddeunyddiau sy’n ecogyfeillgar, felly mae hynny’n cefnogi cynllun (Grace & Green) o’r hyn rydym am ei gyflawni.
“Ein prif gynllun ni fel busnes yw sicrhau bod cynhyrchion cynaliadwy yn fwy hygyrch i’r rhai sy’n cael eu mislif, a chael gwared o’r cywilydd sy’n bodoli o gwmpas mislif.”