Heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 29) ydy Diwrnod Rhyngwladol Undod â Phobloedd Palesteina.

Cafodd yr ŵyl goffa hon ei sefydlu gan y Cenhedloedd Unedig yn 1977, i nodi’r diwrnod hwnnw yn 1947 pan gytunodd y Cenhedloedd Unedig i rannu tiriogaeth Palesteina (oedd bryd dan fandad yr Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd) yn ddwy wladwriaeth annibynnol: Israel a Phalesteina fodern.

Flwyddyn a mwy wedi dechrau’r rhyfel gwaedlyd diweddaraf rhwng Israel ac Hamas, mae Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ac un o gydlynwyr y rhwydwaith ymgyrchu Palestine Solidarity Cymru, wedi bod yn siarad â golwg360 am y pethau bychain y gall pobol yng Nghymru eu gwneud er mwyn gwneud safiad ar ran y Palestiniaid.

“Mae Palestine Solidarity Cymru, fel endid, yn strwythur sy’n galluogi canghennau ar draws Cymru gyfan i gydweithredu a rhannu gwybodaeth,” meddai.

“Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth strategol am y cwmnïoedd mawr sydd angen eu boicotio, sut mae trefnu ralïau, sut mae dosbarthu taflenni, ac yn y blaen.”

Ymhlith gweithredoedd y gangen yng Nghaerdydd mae hi’n rhan ohoni mae protestio y tu allan i fanc Barclays, sydd wedi’u cyhuddo o fuddsoddi yng nghwmnïau arfau Israel, a chefnogi ymgyrchoedd ar lefel yr awdurdod lleol i osgoi defnyddio cynnyrch fyddai’n cynorthwyo Israel.

“Mae’r rhwydwaith yn ffordd o ddod â’r canghennau at ei gilydd,” meddai.

Nifer y canghennau’n cynyddu

Er bod cyfrif Instagram gan Palestine Solidarity Cymru ers 2020, mae’r strwythur ei hun yn “weddol newydd”.

“Dim ond cwpwl o fisoedd yn ôl gafodd e’i greu,” meddai Bethan Sayed wedyn.

“Mae nifer o’r canghennau unigol wedi bodoli ers blynyddoedd bellach, ond mae twf amlwg wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Roedd pum cangen yn wreiddiol, ac yna fe gafodd pedair yn rhagor eu ffurfio dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae mwy a mwy o ganghennau’n dechrau nawr y tu allan i gadarnle traddodiadol y mudiad yn y de, ac mae unrhyw un sy’n awyddus i sefydlu cangen yn rhydd i wneud.”

Yr wythnos ddiwethaf, llwyddodd cangen newydd Rhondda Cynon Taf i godi £1,000 at elusennau Palesteina wrth gynnal digwyddiad barddoniaeth a bwyd o Balesteina.

“Rydyn ni’n brwydro’n gryf o blaid trafodaethau rhyng-gymunedol a chydweithio rhwng grwpiau gwahanol,” meddai wedyn, gan gyfeirio at ddigwyddiadau’n dod â chymdeithasau Mwslemaidd ac Iddewig at ei gilydd.

‘Nifer fawr o flynyddoedd’

Mae’r Palestine Solidarity Campaign, y grŵp ehangach mae’r canghennau hyn yn rhan ohono, yn weithredol ledled Cymru a Lloegr.

Cafodd ei ffurfio yn 1982, ac ymhlith ei gefnogwyr enwocaf mae Jeremy Corbyn, cyn-arweinydd y Blaid Lafur, a Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru.

Yn ôl Bethan Sayed, mae’n bwysig cofio “bod y mudiad wedi bodoli ers blynyddoedd lawer cyn y digwyddodd yr ymosodiadau ym mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf”.

“Mae Israel wedi bod yn meddiannu ar dir Palesteina mewn modd sy’n groes i gyfraith ryngwladol ers nifer fawr o flynyddoedd,” meddai.

“Mae hynny’n amlwg wedi cythruddo pobol ar draws y byd i gyd.

“Ond yn hytrach na’n bod ni’n dweud wrth bobol Palesteina beth i’w wneud neu sut i deimlo, holl bwrpas y mudiad ydy dangos cefnogaeth ac undod.”

Palesteina – a Chymru – rydd

Yn ôl Bethan Sayed, mae cymhariaeth amlwg rhwng y frwydr dros hawliau ym Mhalesteina a’r ymgyrch annibyniaeth yng Nghymru.

“Mae pobol yn dweud, ‘Wel, o ran annibyniaeth i Gymru, mae angen cael refferendwm i fedru sefydlu hynny’n gyfreithiol’,” meddai, gan ychwanegu bod yr un egwyddor yn wir yn achos Palesteina hefyd.

“Pobol Palesteina ddylai fod â’r hawl i ddewis beth fydd dyfodol Palesteina, pan fyddan nhw’n cael y rhyddid i wneud hynny mewn modd sy’n deilwng o ran cyfraith ryngwladol – boed hynny’n golygu datrysiad dwy wladwriaeth neu sefydlu gwladwriaeth ddwy genedl.

“Dw i’n credu’i bod hi’n bwysig, pan fydd gwleidyddion neu actifyddion yn siarad gyda phobol yn y wlad yma, eu bod nhw wastad yn cymryd mewn i ystyriaeth beth mae pobol o Balesteina eisiau ein bod ni’n ei wneud.

“Dyna pam mae’r ymgyrch Boicotio, Dihatru, a Sancsiynau (BDS) mor bwysig – oherwydd mai Palestiniad sy’n ymwneud â hynny, ac yn gwybod yn iawn faint o effaith mae peidio â phrynu cynnyrch sydd wedi’i greu ar dir wedi’i feddiannu gan Balestiniaid yn medru ei gael.

“Be rydyn ni’n clywed yn aml ganddyn nhw ydy nad ydyn nhw’n elusen.

“Maen nhw eisiau cymorth fydd wir yn herio’r systemau yma.”

‘Pennau yn y tywod’

Mae Bethan Sayed hefyd yn teimlo bod angen ymwybyddiaeth ehangach o’r hyn sy’n digwydd ym Mhalesteina.

“Dw i’n credu bod lot o bobol yn rhoi eu pennau yn y tywod ac yn meddwl, ‘Am nad yw hwn yn fy effeithio i, does dim rhaid i fi feddwl amdano fe’,” meddai.

“Ond y gwir ydy, mae e’n effeithio arnon ni, oherwydd mae arfau’n cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru, yn Aberporth, yng Nglasgoed, ac ym Merthyr.

“Mae’n rhaid i ni gydnabod y rôl rydyn ni’n ei chwarae er mwyn i ni allu newid y byd.

“Mae’r sefyllfa wedi mynd heibio galw am gadoediad, yn ein barn ni.

“Mae elusennau fel Amnest Rhyngwladol a Save The Children bellach yn pwysleisio mai embargo arfau ydy’r unig ateb er mwyn cael heddwch hir dymor.”

‘Ddim yn byw mewn bybl’

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn fwy chwyrn na Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredoedd Israel, “dydy’r hyn maen nhw wedi’i wneud ddim yn ddigonol,” yn ôl Bethan Sayed.

“Dydyn ni ddim yn byw mewn bybl, ac mae’n rhaid i ni gymryd ein cyfrifoldebau rhyngwladol o ddifrif,” meddai, gan ychwanegu bod elfen o ragrith wrth i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid rhyngwladol.

“Mae cymaint o arian wedi mynd at Wcráin, ac mae sefydliadau’n bodoli sy’n cefnogi gwledydd Affricanaidd.

“Felly dydy hi ddim yn wir pan mae’r Llywodraeth yn honni nad ydy Cymru’n medru gweithredu ar lefel ryngwladol.”

‘Siom’

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, holi Eluned Morgan am bolisi’r Llywodraeth ar sicrhau bod busnesau yng Nghymru’n cydymffurfio â’r safonau rhyngwladol yn achos masnachu ag Israel.

Bryd hynny, soniodd ei fod e wedi’i siomi fod y Prif Weinidog wedi “gwrthod ateb” ei gwestiwn.

Yr wythnos hon, awgrymodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, hefyd ei bod hi’n bosib nad yw polisi’r Llywodraeth yn cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, a bod angen ystyried sut fydd Llywodraeth Cymru’n cynorthwyo’r adferiad ym Mhalesteina wedi’r rhyfel.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi ymateb hyd yn hyn.

‘Pŵer geiriau’

Mae Bethan Sayed hefyd wedi beirniadu agwedd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.

“Roedd Eluned Morgan yn fwy parod i drafod Palesteina pan oedd hi’n Weinidog Rhyngwladol, neu yn Senedd Ewrop, nag y mae hi fel Prif Weinidog,” meddai.

“Dw i ddim yn credu weithiau bod gwleidyddion yn gwerthfawrogi anrhydedd bod yn medru mynegi’u barn a defnyddio’u geiriau i ddylanwadu ar bethau.

“Mae pŵer geiriau’n medru bod yn gryfach na phŵer gweithred weithiau.

“Pe bai hi’n dechrau trafod cydymffurfiaeth â’r gyfraith ryngwladol a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, dw i’n credu y byddai hynny’n newid agwedd Llywodraeth Cymru ar lefel seicolegol, o leiaf.

“Mae hynny’n enwedig yn wir gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan nawr.”

‘Gwnewch beth fedrwch chi’

Ond nid y Llywodraeth yn unig sy’n medru gweithredu o blaid y Palestiniaid, fel mae Palestine Solidarity Cymru yn ei ddangos, yn ôl Bethan Sayed.

“Weithiau, mae cyfyngiadau ar beth mae pobol yn gallu ei wneud, ac rydyn ni’n cydnabod hynny,” meddai.

“Ond rydyn ni’n ymbil ar bobol i gasglu arian yn y gweithle ar gyfer elusennau sy’n gweithredu yn y Dwyrain Canol, neu i ymuno ag undebau llafur sy’n cefnogi cadoediad.

“Fedrwch chi anfon cwynion at eich Cyngor chi os ydyn nhw’n gosod eich pensiwn chi mewn cyfrif gyda banc Barclays, a gofyn iddyn nhw ddefnyddio banc arall.

“Gwnewch beth fedrwch chi ydy’n pwyslais ni.”