Mae’r bleidlais ar y Bil yn ymwneud â chymorth i farw wedi hollti barn Plaid Cymru.
Ar y cyfan, cafodd ail ddarlleniad ei basio o 330 i 275 yn San Steffan.
Mae’r canlyniad yn golygu y bydd y pwnc yn cael sylw pellach yn San Steffan dros y misoedd nesaf, wrth i aelodau seneddol geisio penderfynu a ddylai rhoi cymorth i farw ddod yn gyfreithlon.
Wrth i aelodau gael rhyddid i bleidleisio yn ôl eu cydwybod, pleidleisiodd tri aelod o Blaid Cymru o blaid, sef Ben Lake, Llinos Medi a Liz Saville Roberts, tra bod Ann Davies wedi pleidleisio yn erbyn.
Cyn y bleidlais, Liz Saville-Roberts wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu pleidleisio o blaid y mesur.
Mae Ail Ddarlleniad y Mesur Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yn digwydd yn Nhŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd.
‘Tosturi ac urddas’
Wrth drafod ei chymhelliannau, dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ei bod hi’n “credu mewn agwedd dosturiol ac urddasol at farw â chymorth”.
Ond, roedd hi’n cydnabod hefyd fod “rhaid i ni wella gofal lliniarol, cyn ac ar ôl unrhyw bleidlais ar farw â chymorth”.
“Y man cychwyn, yw sut i ddatrys y cyfyng-gyngor ‘yr hyn rwyf ei eisiau i mi fy hun’ gyda’r ofn o alluogi canlyniadau a allai fod yn ofnadwy i eraill,” meddai Liz Saville Roberts.
‘Ofn rhesymegol’
Wrth esbonio’i phryderon hi yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd fod yna “ofn rhesymegol ynghylch sut y bydd pwysau sefydliadol, diffyg adnoddau ac – yn ofnadwy – diwylliant o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cynyddu hwylustod marwolaeth fel opsiwn fforddiadwy”.
“Nid yw hyn yn ofn newydd: dywedodd adolygiad y Farwnes Neuberger o Lwybr Gofal Lerpwl, ‘Er mwyn i bawb sy’n marw yn y sector acíwt allu gwneud hynny ag urddas, mae’n rhaid i’r sefyllfa bresennol newid,” meddai.
“Roedd hynny yn 2013. Rydym yn gwybod, ar ôl Covid, cyn lleied sydd wedi newid. Ni fu marwolaeth fel cyfleustra sefydliadol erioed ac ni fydd byth yn iawn.
“Ein dyletswydd ni yw mynnu gofal lliniarol da. Ond nid yw hyn yn drwydded i ochrgamu cwestiwn moesegol heddiw.”
‘Amodol’
Ond eglurodd Liz Saville Roberts fod ei chefnogaeth hi’n amodol ar sicrwydd y bydd digon o graffu ar y polisi’n bosib yn y dyfodol.
“Byddaf yn cefnogi’r Mesur hwn ar ei Ail Ddarlleniad os oes sicrwydd o graffu digonol i bwytho dilledyn cyflawn o’r hyn sydd ar hyn o bryd yn edafedd y gellid ei dynnu’n gareiau yn y llysoedd,” meddai.
“Os na all gwaith craffu’r pwyllgor Mesur wneud y Mesur hwn yn gadarn, byddaf yn ailystyried fy nghefnogaeth mewn pleidleisiau yn y dyfodol.”
‘Amddiffyn yr hawl i fywyd’
“Ni ddylai cymorth i farw byth gael ei ystyried fel dewis amgen o fynd i’r afael â’r methiannau o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wrth gefnogi cleifion a’u teuluoedd yn ystod rhai o eiliadau anoddaf bywyd,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedyn.
“Ni ddylai’r Llywodraeth ychwaith roi blaenoriaeth i ddad-droseddoli marw â chymorth dros ymdrechion i wella cyflwr digalon gofal cymdeithasol.
“Mae cyfraith dda yn dibynnu ar fanylion ac eglurder, yn enwedig yn y diffiniad o dermau megis gallu, a chyfrifoldeb unigolion.
“Rhaid i ni sicrhau bod digon o graffu ar y ddeddfwriaeth hon, sydd wedi’i gosod i wneud newid sylfaenol yn natur y gyfraith sy’n ymwneud ag uchafiaeth gyfreithiol amddiffyn yr hawl i fywyd.”
Goblygiadau i Gymru
Cyfeiriodd Liz Saville Roberts at oblygiadau penodol y mesur ar ofal iechyd yng Nghymru hefyd, sy’n “galw am ystyriaeth briodol”, meddai.
“Mae hyn yr un mor wir am gymunedau anghysbell a difreintiedig lle mae pobl sy’n sâl ac yn marw eisoes yn dioddef gwasanaethau iechyd anghymesur o annigonol.”
‘Angen newid yn y gyfraith’
Ond roedd hi’n bwriadu cefnogi’r mesur oherwydd ei phrofiadau personol o fod wedi adnabod pobol sy’n dioddef gymaint wrth farw, meddai.
“Hoffwn dalu teyrnged i Iola Dorkins of Forfa Nefyn, yr wyf yn ei hadnabod ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac sy’n marw o glefyd motor niwron.
“Mae hi’n gwisgo brês y mae ei gŵr wedi’i addasu i’w gwneud hi’n fwy cyfforddus.
“Heddiw, mae hi mewn seibiant mewn hosbis yng Nghaergybi, hanner can milltir o’i chartref.
“Dyna realiti bywydau pobl fel y mae pethau.
“Mae angen newid yn y gyfraith.”
Eglurhad Ann Davies
I’r gwrthwyneb, cyhoeddodd Ann Davies ddatganiad yn egluro pam ei bod hi wedi penderfynu pleidleisio yn ei erbyn.
👇Fy mhenderfyniad ar sut fyddai'n pleidleisio ar Y Bil Cymorth i Farw.
👇My decision on how I’ll vote on the Assisted Dying Bill. pic.twitter.com/8mUYARY7DJ
— Ann Davies AS / MP (@AnnBremenda) November 27, 2024