Mae Aelodau Seneddol yn trafod deddfwriaeth cymorth i farw yn ei ddarlleniad cyntaf yn San Steffan heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 29), ac mae cyfreithiwr yn dweud y dylai gynnwys “meini prawf llym”.

Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y ddeddfwriaeth o fewn y darlleniad cyntaf – un ai i ddod â’r syniad i ben, neu i sicrhau ail ddarlleniad.

Er bod y bleidlais hon yn hanfodol yn nhermau symud y ddeddfwriaeth yn ei blaen i’r cam nesaf yn y broses ddeddfwriaethol, fydd pleidleisio o blaid ddim yn golygu cyflwyno’r ddeddfwriaeth ar unwaith.

Ond mae heddiw’n cael ei ystyried yn ddiwrnod pwysig i ymgyrchwyr ar ddwy ochr y ddadl, wrth i drigolion Cymru a Lloegr aros i weld a fydd San Steffan yn mabwysiadu’r egwyddor.

Roedd Senedd Cymru wedi pleidleisio yn erbyn yr egwyddor ddiwedd mis diwethaf.

Ac mae’r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ar Politics Live fod yna “debygolrwydd mawr” y bydd angen i’r ddeddfwriaeth gael ei derbyn gan y Senedd, gan fod iechyd yn faes sydd wedi’i ddatganoli.

Mae elfen droseddol i’r ddeddfwriaeth hefyd, ond dydy’r maes hwnnw ddim wedi’i ddatganoli i Gymru ac felly mae angen penderfyniad gan San Steffan yn hynny o beth.

‘Mater cymhleth a sensitif’

Mae Sue Edwards yn Gyfarwyddwr a Phennaeth Esgeulustod Meddygol gyda chwmni cyfreithiol Howells yng Nghaerdydd.

Wrth siarad â golwg360, dywedo fod “cymorth i farw yn un o’r materion mwyaf cymhleth a sensitif mae’r proffesiwn cyfreithiol wedi’i wynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf”.

“Tra ein bod ni’n gorfod parchu hawl person i wneud eu penderfyniad eu hunain, yn enwedig yng nghyd-destun dioddefaint parhaol, mae’n rhaid i ni fod yn effro i ganlyniadau anfwriadol,” meddai.

“Dylai’r warchodaeth o fewn y ddeddfwriaeth sy’n cael ei chynnig fod yn ddigon cadarn i atal camdriniaeth, gorfodaeth, neu fanteisio ar gleifion sydd yn agored i niwed.”

‘Dylai unrhyw ddeddfwriaeth gynnwys meini prawf llym’

Dywed Sue Edwards fod yr elfen “foesol” i gymorth i farw yn “ddifyr”, ond fod rhaid i’r proffesiwn cyfreithiol fod yn ofalus o ran sut mae’n ymdrin â’r mater yn ymarferol.

“Dylai unrhyw ddeddfwriaeth gynnwys meini prawf llym, fel bod yna sicrwydd bod unrhyw glaf sydd eisiau cymorth i farw wedi cael eu profi gan arbenigwyr meddygol annibynnol,” meddai.

Ychwanega fod rhaid gwneud hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniad, “heb amheuaeth”, yn rhydd o unrhyw “bwysau allanol”.

“Mae gennym ddyletswydd i sicrhau mai dyma sut fydd y ddeddfwriaeth yn gweithio, ac nid mewn ffordd sydd yn dod ag anaf i’r bobol mae’n ceisio’u hamddiffyn.”

Mae disgwyl cyhoeddi canlyniad y bleidlais ar y darlleniad cyntaf yn ddiweddarach heddiw.

Pam dw i’n cefnogi cymorth i farw

David Chadwick

Ddydd Gwener (Tachwedd 29), bydd aelodau seneddol yn pleidleisio ar ail ddarlleniad ddeddfwriaeth Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)