Drwy wneud cyfraniad bach, bydd pob ymwelydd yn gallu cefnogi ein treftadaeth a’n diwylliant ieithyddol, a thrwy hynny greu atofion mwy ystyrlon a phrofi rhywbeth sydd ddim ar gael yn unman arall yn y byd, medd Mark Drakeford…
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil arwyddocaol i’r Senedd. Bil a fyddai, pe bai’n cael ei basio, yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno tâl bach ar gyfer ymwelwyr sy’n aros dros nos yng Nghymru. Er y byddai’r tâl y pen i dwristiaid yn fach, byddai’n cael effaith bellgyrhaeddol ar ein cenedl drwy gael ei fuddsoddi yn ôl i’n cymunedau, ein hamgylchedd, a’n hiaith.
Mae Cymru yn croesawu miliynau o ymwelwyr o bob cwr o’r byd bob blwyddyn. Mae ein hiaith a’n treftadaeth yn rhan fawr o’r atyniad i ymwelwyr – maen nhw’n dangos ein hunaniaeth unigryw ac yn cynnig rhywbeth gwahanol i ymwelwyr o’i gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Effaith ar y Gymraeg
Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, rwy’n deall bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae’n un o’n hasedau mwyaf gwerthfawr. Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned.
Mae’r ardaloedd sydd â’r dwysedd uchaf o siaradwyr Cymraeg hefyd yn rhai o’r ardaloedd mwyaf atyniadol i dwristiaid.
Fel rhan o’n strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu’r defnydd dyddiol o’r iaith, rydym am sicrhau bod y seilwaith a’r amodau cywir ar waith i helpu’r iaith i ffynnu. Yn yr un modd, rydym am sicrhau bod Cymru yn parhau i elwa’n economaidd ar dwristiaeth.
Os caiff y Bil hwn ei basio a bod ardoll ymwelwyr yn cael ei chyflwyno ym mhob rhan o Gymru, gallai godi cymaint â £33m y flwyddyn. Byddai hynny’n ffrwd refeniw newydd sylweddol i awdurdodau lleol. Rhaid ailfuddsoddi’r arian hwn yn yr ardal i wella cyfleusterau a seilwaith lleol sy’n cael ei ddefnyddio gan drigolion yn ogystal â chan dwristiaid.
Er enghraifft, mae buddsoddi yn ein cymunedau Cymraeg yn cynnig y cyfle i fuddsoddi mewn mentrau i helpu’r Gymraeg i ffynnu. Gallai helpu i feithrin mwy o ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’n hiaith a’n treftadaeth ymhlith pobol sy’n byw yn yr ardal ac ymwelwyr drwy gefnogi prosiectau arloesol sy’n gwneud y Gymraeg yn rhan annatod o’n cynnig i dwristiaid.
Ar gyfer ardaloedd sy’n dewis cyflwyno ardoll, y tâl fyddai 75c y pen y noson am aros ar safleoedd gwersylla ac mewn hostelau, a £1.25 y pen y noson am aros mewn mathau eraill o lety ymwelwyr.
Gallai rhai cymunedau elwa ar gyflwyno ardoll ymwelwyr yn fwy nag eraill, felly mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a fydd yn berthnasol yn eu hardal. Rhaid iddyn nhw ymgynghori â’u cymunedau lleol cyn dod i’r penderfyniad hwnnw.
Mae ein hiaith a’n treftadaeth yn hollbwysig. Maen nhw’n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn i’r rhai sy’n byw yma, ac yn caniatáu i ymwelwyr ddarganfod y diwylliant unigryw sydd gan Gymru i’w gynnig.
Drwy wneud cyfraniad bach, bydd pob ymwelydd yn gallu cefnogi ein treftadaeth a’n diwylliant ieithyddol, a thrwy hynny greu atofion mwy ystyrlon a phrofi rhywbeth sydd ddim ar gael yn unman arall yn y byd.