Mae nifer o gerddorion amlycaf Cymru am berfformio gig yn rhad ac am ddim yng Nghlwb y Bont, sydd wedi diodde’n enbyd yn sgil y llifogydd diweddar.
Mae nifer fawr o gartrefi a busnesau cymoedd y de wedi cael eu taro’n wael gan y llifogydd diweddar, gan gynnwys y clwb sy’n ganolbwynt i fywyd Cymraeg Pontypridd.
Ar Fawrth 13, bydd digwyddiad yn yr Hen Ffatri Bop yn y Porth yn benodol i godi arian i Glwb y Bont, ac mae’r Fenter Iaith leol yn gweithio mewn partneriaeth ag Avanti i drefnu noson arbennig.
Yr artistiaid sydd wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn yw Elin Fflur, Eden, Al Lewis, Mei Gwynedd a Catsgam, a bydd rhagor yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos.
Yn ôl Einir Siôn, prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Tâf, mae’n bwysig ail-agor y clwb cyn gynted â phosib ac yntau’n hybu Cymreictod yn yr ardal ers 40 mlynedd.
“Mi roedd nifer y rhai oedd yn ei ddefnyddio wedi mynd lawr rhai blynyddoedd yn ôl, ond mae ‘na bwyllgor newydd yna ers tair mlynedd a rydyn ni fel Menter wedi bod yn gweithio’n agos iawn hefo nhw er mwyn codi faint o ddigwyddiadau cyson Cymraeg sydd yno ac mae hynny wedi bod yn dwyn ffrwyth,” meddai.
“Roedd noson Huw Chiswell oedd fod yno nos Wener wedi gwerthu allan. Noson Tic Toc cyn y Nadolig wedi gwerthu allan, Gwilym Bowen Rhys fod yno ym Mehefin ac rwy’n sicr y bydd e’n gwerthu allan. Mae bwrlwm yn ôl ynghylch y Clwb.”
“Mae e’n le pwysig a dwi’n meddwl mai dyna pam mae gymaint o leoliadau eraill yn yr ardal, ac yng Nghaerdydd wedi bod yn trefnu digwyddiadau bach i godi arian hefyd er mwyn cefnogi Clwb y Bont a’r Green Rooms yn Nhrefforest.”
Dim yswiriant
Yn ôl Einir Siôn, mae llifogydd ar y safle yn y gorffennol yn golygu ei bod yn amhosib bron cael yswiriant ar gyfer y clwb.
“Flynyddoedd yn ôl mi oedd y Clwb yn dioddef llifogydd yn weddol gyson o’r afon, ac achos hynny does dim un cwmni yswiriant wrth gwrs yn mynd i roi yswiriant llifogydd i leoliad fel hyn, ac mae ‘na nifer o gartrefi yn yr ardal yn yr union sefyllfa,” meddai.
“Ond fe ddaeth y dŵr yr wythnos diwethaf o gyfeiriad arall, mi ddaeth i lawr y stryd ac felly fe grëwyd powlen hefo Clwb y Bont yn y canol, a chan fod yr argae y tu cefn, fe wnaeth e gadw’r afon allan ond hefyd creu powlen o ddŵr.
“Fyddai neb wedi bod yn barod am hynna. Ac fe gododd lefel y dŵr yn uwch nag y mae o erioed wedi ei wneud o’r blaen, i tua 7 troedfedd mewn ambell i fan!
“Roedd dodrefn yn arnofio dros y bar. Mae o’n hollol dorcalonnus.
“Mae ‘na wal sydd angen dod lawr yn y seler, mae’r bar ei hun angen dod allan, mae’r llwyfan wedi cael ei dynnu allan. Popeth pren, popeth trydanol, y system sain, yr oergelloedd, yr holl stoc i gyd wedi mynd a rhan fwyaf o’r dodrefn.”
Cefnogi busnes arall yn yr ardal
Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf am geisio cefnogi Bragdy Twt Lol, sydd hefyd wedi ei heffeithio gan y llifogydd yn Nhrefforest.
Bydd poteli bragdy Twt Lol yn cael eu gwerthu yn y noson i godi arian.
“Ryden ni’n edrych ymlaen yn fawr am y digwyddiad ac yn ddiolchgar iawn i bawb achos mae’r Clwb mwn tipyn o gyflwr,” meddai Einir Siôn.
“Rhwng costau glanhau y lle a chael y lle yn saff, ail adeiladu, costau rhedeg arferol fel biliau trydan a nwy- sydd ddim yn diflannu achos fod y lle’n wag, ac wrth gwrs prynu’r adnodau newydd yn ôl ac ati, rydyn ni’n edrych ar hyn o bryd ar oddeutu £30,000. A gobeithio nad eith o’n lot uwch na hynny!
“Bydd y tocynnau yn mynd ar werth am 10 o’r gloch bore dydd Sul, Mawrth 1 a dim cyn hynny! Mae ‘na wefan yn cael ei chreu ar hyn o bryd. Rhaid prynu tocyn drwy’r system yna.
“Mae na le i 300, felly cyntaf i’r felin fydd hi.
“Bydd pris y tocynnau tua £35, a bydd yr arian i gyd yn mynd Glwb y Bont.
“Rydyn ni fel Menter eisiau estyn diolch gwirioneddol i Emyr Afan a’i dim o yn Avanti a thu hwnt, achos syniad Emyr ydi hwn ac mae o’n symud mor gyflym ac yn defnyddio’i gysylltiadau a’i arbenigedd yn arbennig.
“Mae o’n rhoi ei amser yn rhad ac am ddim ac yn gweithio i drefnu hyn, ar ben popeth arall sydd ganddo. Mae hyn am fod o gymaint o fudd i’r Cymoedd i gyd.”