Mae Hosni Mubarak, cyn-arlywydd yr Aifft, wedi cael angladd milwrol yn dilyn ei farwolaeth yn 91 oed.
Roedd e wedi bod mewn grym ers dros dri degawd pan gafodd ei symud o’i swydd yn 2011.
Fe wnaeth ei gefnogwyr ymgynnull yn ninas Cairo wrth i’w gorff gael ei gludo yno ar gyfer y gwasanaeth oedd yn cynnwys anrhydeddau milwrol llawn
Mae llywodraeth yr Aifft yn gwneud ymdrech ers ei farwolaeth i roi’r pwyslais ar ei fywyd milwrol yn hytrach na’i arweinyddiaeth o’r wlad.
Ymhlith y rhai yn y gwasanaeth roedd yr arlywydd presennol, Abdel Fattah el-Sissi.
Mae cyfryngau’r wlad wedi bod yn darlledu deunydd o’i fywyd cynnar, gan gynnwys ei gyfnod yn y lluoedd arfog.
Roedd e’n hybu heddwch ond fe ddaeth y wlad yn dlotach o lawer yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.
Mae disgwyl i’w weddillion gael eu claddu yn ddiweddarach ym mynwent y teulu ger ei gartref yn Cairo.