Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhagor o rybuddion melyn am eira a rhew yng Nghymru.

Bydd yr un cynta’n dod i rym yn y gogledd a’r canolbarth am 10 o’r gloch heno (nos Fercher, Chwefror 26), ac yn para tan 10 o’r gloch bore fory (dydd Iau, Chwefror 27).

Bydd yr ail rybudd yn dod i rym yn y de a’r canolbarth o ganol nos heno ac yn para tan ganol dydd yfory.